Gŵyl Delynau Cymru 2019
17 + 18 Ebrill 2019
Cyngherddau, Dosbarthiadau, Gweithdai
Llywydd: Osian Ellis
Cyfarwyddwraig Artistig: Elinor Bennett

Neges gan Elinor Bennett
Cyfarwyddwraig Artistig
Mae’n anodd credu mai hon fydd y ddeugeinfed Ŵyl Delynau flynyddol i mi ei threfnu yn ystod y Pasg – a braf yw cynnig cwrs diddorol dros ben i apelio at delynorion o bob oedran a chyrhaeddiad.
Edrychwn ymlaen at gyngerdd gyda Catrin Finch a gweithdy jazz gyda Monika Stadler, y delynores wych o Awstria sydd wedi dod â chwa o awyr iach a bywyd newydd i fyd y delyn.
Byddwn yn dathlu cyfraniad aruthrol telynorion- gyfansoddwr enwog o Ffrainc i gerddoriaeth a datblygiad y delyn: Henriette Renié, Marcel Tournier, Marcel Grandjany.

Cyngerdd yr Ŵyl
18 Ebrill 2019, 7:30pm, Theatr Galeri Caernarfon
Catrin Finch (Cymru) • Monika Stadler (Awstria)
Côr Telyn Hŷn Gwynedd a Môn • Telynau Clwyd
Edrychwn ymlaen at groesawu’r delynores wych CATRIN FINCH nôl i Ŵyl Delynau Cymru i berfformio rhai o weithiau mawr repertoire y delyn yn rhyngwladol yn cynnwys darnau gan Renié, Tournier, Grandjany a Roussel.
Bydd cyfle hefyd i fwynhau perfformiadau unigryw y delynores MONIKA STADLER sy’n cyfuno arddulliau jazz, gwerin, clasurol a byrfyfyr yn ei chyfansoddiadau sy’n chwa o awyr iach i fyd y delyn.
Tiwtoriaid y Cwrs

Elinor Bennett

Astudiodd ELINOR BENNETT gydag Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ar ôl graddio yn y Gyfraith, a bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain yn gynnar yn ei gyrfa. Recordiodd 15 albwm yn amrywio o gerddoriaeth telyn yr 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru.
Ysgrifennodd sawl cyfansoddwr gerddoriaeth i Elinor, a cyfarwyddodd astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, a Doethuriaeth gan Brifysgol Cymru. Elinor yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai.

Elfair Grug

Cwblhaodd Elfair Radd Meistr a BMus yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion. Yn ddiweddar dychwelodd Elfair o Wlad Thai i barhau ar ei gyrfa fel telynores broffesiynol ym Mhrydain, bu Elfair yn gweithio dramor am ddwy flynedd yn dysgu’r delyn mewn canolfan delyn arbennig. Astudiodd Elfair ym Manceinion gydag Eira Lynn Jones ac y mae’n gyn-ddisgybl i Elinor Bennett yng Nghanolfan Gerdd William Mathias. Brodor o Fynytho, Llŷn yw Elfair ac y mae’n enw cyfarwydd yn y byd eisteddfodol ers yn ifanc iawn a phrofodd sawl llwyddiant yn flynyddol. Elfair oedd enillydd Ysgoloriaeth Nansi Richards 2013 ac enillodd gystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r cylch a derbyn Ysgoloriaeth Peggy a Maldwyn Hughes. Mae Elfair yn brysur ar hyn o bryd yn hyrwyddo ei albwm unawdol cyntaf wedi ei recordio ar label SAIN.

Dafydd Huw

Braf yw gweld Dafydd Huw yn dychwelyd fel un o Diwtoriaid yr Wyl Delynau unwaith eto.
Bu’n fyfyriwr ar y Cyrsiau yn y dyddiau cynnar ac yn ddisgybl i Elinor Bennett tra’n gwneud ei radd BMus ym Mangor.
Treuliodd ddwy flynedd ol-radd yn Llundain gan dderbyn hyfforddiant gan Osian Ellis a phrofi bywyd dinas gan wneud gwaith cerddorfaol amrywiol a hefyd gweithio yn rhan amser gyda Chwmni Telynau Salvi.
Ond dychwelyd i Gymru oedd ei ddewis yn 1985, a byth oddi ar hynny mae wedi cyfrannu’n helaeth at y bywyd Cymreig gan fod yn delynor swyddogol yn y Prif Wyliau Cenedlaethol ers yn agos i 40 mlynedd.
Mae wedi hyfforddi cannoedd i ganu’r delyn dros y blynyddoedd ac yn dal i fwynhau gwneud hynny yn ddyddiol yn ei fro enedigol yn Sir Conwy.

Catrin Morris Jones

Yn wreiddiol o Fangor, fe astudiodd Catrin y delyn yng Ngholeg y Guildhall ac yna ennill ysgoloriaeth i’r Academi Frenhinol Gerddorol yn Llundain ble enillodd Wobr Renata Scheffel-Stein ar y Delyn. Ym mis Mai 2014 cafodd ei hethol yn Gydymaith (Associate) yr Academi Frenhinol. Rhoddir yr anrhydedd hwn i gyn-fyfyrwyr yr Academi sydd wedi amlygu eu hunain ym myd cerddoriaeth a gwneud cyfraniad yn eu maes dewisiedig. Mae Catrin wedi perfformio gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw y DU ac ar amryw o sioeau cerdd yn y ’West End’ yn Llundain. Mae bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli, yn diwtor telyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn ogystal â hunan-liwtio ar y delyn.
Amserlen y Cwrs
Dydd Mercher, 17 Ebrill
9:00am – 9:20am Cyrraedd a Chofrestru (holl aelodau dros 18oed)
9:20am – 9:40am Cyrraedd a Chofrestru (holl aelodau o dan 18oed)
10:00am – 1:00pm Dosbarthiadau
1:00pm – 2:00pm Cinio
2:00pm – 3:30pm Gweithdy Jazz efo Monika Stadler
4:00pm – 5:00pm Dosbarthiadau
6:00pm, Stiwdio 2 Galeri Cystadleuaeth Ymddiriedolaeth Nansi Richards
Dydd Iau, 18 Ebrill
10:00am – 1:00pm Dosbarthiadau
1:00pm – 2:00pm Cinio
2:00pm – 3:30pm Dosbarth Meistr Elinor Bennett
5:00pm Galerïau Galeri: Seiniau dros 40 o delynorion ar galerïau Galeri
6:00pm Cyngerdd Caffi
7:30pm Cyngerdd yr Ŵyl