Dathlu Cerddoriaeth Osian Ellis

5 Mar 2018

Dydd Sul, Ebrill 1 2018 | 8:00yh | Theatr, Galeri Caernarfon

Sioned Gwen Davies (Mezzo-soprano)
Rhys Meirion (Tenor)
Valeria Voshchennikova (Rwsia) Pencerdd 2014
Pedwarawd Llinynnol a Thelynorion CGWM
Côr Telyn Hŷn Gwynedd a Môn
Dawnswyr  Dawns i Bawb

Rhaglen yn cynnwys:
“Osian”

Perfformiad cyntaf o waith cydweithredol newydd gan  Y Prifardd Mererid Hopwood,  gyda cherddoriaeth gan ddwy o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru –  Mared Emlyn a Gwenan Gibbard –  i ddathlu penblwydd Osian Ellis yn 90 oed.

Valeria Voshchennikova

Valeria Voshchennikova

N.B.  Bydd enillydd Cystadleuaeth Pencerdd yng Ngwyl 2014 Valeria Voshchennikova, yn dychwelyd i Gaernarfon i berfformio cerddoriaeth o’i gwlad enedigol, Rwsia.

Tocynnau ar gael rŵan o Galeri Caernarfon.

Cynlluniwyd y cyngerdd  i ddathlu gwaith Osian Ellis fel telynor a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Mared Emlyn a Gwenan Gibbard ar farddoniaeth wreiddiol gan y Prifardd Mererid Hopwood. Sioned Gwen Davies (soprano)  a Rhys Meirion (tenor) fydd yn canu’r geiriau, gyda cherddorion o Ganolfan Gerdd William Mathias a dawnswyr o Dawns i Bawb.

Dyma gyflwyniad Mererid Hopwood (prif lun uchod) i’r gwaith :

“OSIAN” Mae naw caniad yn y gerdd. Yn y gyntaf, tywysir y darllenydd o ddydd geni sain i’r eiliadau pan rhoddwyd y gân i’r ddynolryw am y tro cyntaf. Yna, yn lleisiau’r gleiniau glaw a blodau’r drain ac yn alawon y gwynt drwy’r coed, clywir y gân yn galw enw Osian. Gan fenthyg themâu o hen, hen chwedl Osian a Nia Ben Aur, yn yr olgyfa nesaf cawn ddilyn y ceirw drwy’r coed i Dir Na Nog. Yma, gwelwn Nia ar ffurf y fedwen fud, a’r pren a’r tannau’n disgwyl bysedd a dwylo Osian i roi iddi ei chân. Yn y ddeuawd sy’n dilyn, symudwn o guriad tabyrddau tywyllwch i doriad gwawr ac i gân y ’deryn du. Unir Osian a Nia wrth i’r chweched olygfa orlifo yn un fiesta o lawenydd. Mae eu huniad yn esgor ar gân newydd sydd yn ei thro yn rhoi adenydd i’r hen draddodiadau wrth i ni symud drwy olygfeydd 7 ac 8. Cyrhaeddwn olygfa 9, a chawn glywed sut y daeth hi’n amser trosglwyddo’r melodïau newydd hyn i’r cenedlaethau a ddaw.

Gwaith comisiwn gan Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru gan gronfeydd CCC, RVW Trust, PRSF Fondation for Music, Foyle’s, Colwinston Trust.

Erthyglau Arall

Edrych yn ôl dros yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn 2023

Edrych yn ôl dros yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn 2023

Neges gan Elinor Bennett Cyfarwyddwr ArtistigTachwedd 2022Cynhelir pumed Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Galeri Caernarfon o’r 5-11 o Ebrill 2023, a chawn gyfle euraid i ddod â phobl at ei gilydd i gael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth telyn o ddiwylliannau amrywiol...

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Elinor y delynores arbennig yn ffarwelio mewn steil

Bydd sylfaenydd gŵyl delynau ryngwladol yn dweud hwyl fawr mewn steil gyda ffarwel hir. Y delynores enwog Elinor Bennett fydd canol y llwyfan mewn cyngerdd arbennig i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru y gwanwyn nesaf. Cynhelir y cyngerdd lansio yn Neuadd Pritchard...

Noddwyr yr Ŵyl yn 2023