Datganiad parthed Gŵyl Delynau Cymru 2020
Gyda chalon drom yr ydym yn rhoi gwybod i chi bod rhaid gohirio Gŵyl Delynau Cymru oedd i fod i’w chynnal o’r 8-9 Ebrill oherwydd y sefyllfa gyda’r feirws Covid-19. Fodd bynnag rydym yn benderfynol mai ail-drefnu ac nid canslo fyddwn i a byddwn mewn cysylltiad efo chi yn fuan iawn efo manylion pellach gan obeithio y byddwch yn awyddus i ymuno efo ni ar y dyddiad newydd ymhellach ymlaen yn y flwyddyn. Os na fyddwch yn gallu, yna wrthgwrs byddwn yn trefnu ad-daliad i’r rhai sydd wedi cofrestru neu brynu tocynnau. Ond gofynnwn i chi fod yn amyneddgar am y dyddiau nesaf gan ein bod yn gorfod gohirio / addasu ein rhaglen waith gyfan ar hyn o bryd ac addasu i weithio fel staff o’n cartrefi. Yn y cyfamser daliwch i ymarfer a cadwch lygad ar dudalen Facebook yr Ŵyl / Canolfan Gerdd William Mathias lle byddwn yn postio fideos ag ati yn yr wythnosau nesaf i godi calon pawb.
Cofion gorau,
Elinor, Meinir a’r tîm
Rhaglen
Mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau’r Ŵyl yn cael eu gwerthu gan Swyddfa Docynnau Galeri Caernarfon: 01286 685 222.
Cyngerdd: Cyngerdd Côr Telynau Plant
8 Ebrill 2020, 2:00pm, Galeri Caernarfon
Cyngerdd gan Ensemble Telynau Iau TUDublin ac aelodau’r Cwrs.
Cyngerdd Caffi: Ensemble Telyn Iau TU Dulyn
8 Ebrill 2020, 5:30pm, Caffi Galeri Caernarfon
Cyngerdd anffurfiol gan Ensemble Telyn Iau TU Dulyn
Cystadleuaeth Ysgoloriaeth Nansi Richards
8 Ebrill 2020, 6:00pm, Galeri Caernarfon
Trefnir y digwyddiad hwn mewn cyd-weithrediad gydag Ymddiriedolaeth Nansi Richards.
Galerïau Galeri!
9 Ebrill 2020, 5:00pm, Galeri Caernarfon
50 telyn o’r Cwrs yn chwarae gyda’i gilydd.
Cyngerdd yr Ŵyl
9 Ebrill 2020, 7:30pm, Theatr Galeri Caernarfon
Dau o sêr ifanc rhyngwladol: Y delynores wych Gwenllian Llŷr, meistr y delyn Jazz, Ben Creighton-Griffiths a’i fand, Transatlantic Hot Club [Adrien Chevalier (Ffidil) Ashley John Long (Bas Dwbl)]. Hefyd i gynnwys perfformiadau gan Gôr Telynau Gwynedd a Môn a Telynau Clwyd Hŷn.