Dewch i fwynhau cerddoriaeth jazz Paris yr 1930au gyda Ben Creighton Griffiths (Telyn – Cymru), Adrien Chevalier (Ffidil – Efrog Newydd), a Ashley John Long (Cymru – Bas Dwbl) – sef y Transatlantic Hot Club. Bydd eu perfformiad yn cynnwys caneuon jazz poblogaidd o Gypsy Jazz Ffrengig (a ysbrydolwyd gan Django Reindhardt a Stephane Grappelli) a’u dehongliadau o gerddoriaeth jazz draddodiadol.