Ganed Siân yn Neiniolen, a daeth i amlygrwydd fel cantores ar lwyfan yr Eisteddfod. Cwblhaodd ei haddysg gerddorol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion. Bu’n aelod o gwmnïau opera D’oyly Carte ac Opera North yn Leeds, a chanodd nifer o rannau operatig. Dychwelodd Siân i Gymru ac y mae bellach yn canolbwyntio ar waith Oratorio a chyngherddau. Mae’n diwtor llais yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, ac yn Athrawes Beripatetig i Gyngor Bwrdeistref Conwy. Urddwyd Siân i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, am ei chyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.