Siân yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o’n prif aroleswyr ym myd cerddoriaeth traddodiadol. Mae’n delynores, yn bianydd o fri, ac yn gyfansoddwr a’i dawn fel perfformwraig yn amlwg mewn theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd. Mae hi wedi rhyddhau naw albwm – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol, yn cwmpasu cariad a chwerthin, colled a’r byd ysbrydol. Mae Siân yn enwog am ei gallu greddfol i gyfleu emosiwn yn ei chaneuon gyda didwylledd ac angerdd. Teithiodd yn ddiweddar i China a Vietnam, Patagonia, Canada ac Uzbekistan. Fe’I hurddwyd yn Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru.