Mae’r tenor o Gymro Rhys Meirion eisioes wedi profi llwyddiant rhyngwladol ym maes opera a recordio, a llwyddiant darlledu yng Nghymru. Ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa, mae cyngerdd gala yn Neuadd Frenhinol Albert gyda Bryn Terfel, ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, Cyngerdd Dathlu Desert Island Discs yn Royal Festival Hall Llundain, recordiad byw gan y BBC o 9fed Symffoni Beethoven dan arweiniad Richard Hickox, Requiem Verdi yn Neuadd Frenhinol Albert a Cyngerdd Penblwydd Karl Jenkins yn 70 oed yn Neuadd Carnegie Efrog Newydd. Darlledwyd ail gyfres ei raglen ‘Deuawdau Rhys Meirion’ yn 2017. Mae hefyd yn cyflwyno cyfres ‘Dewch am Dro’ ar Radio Cymru.