Astudiodd Karen Vaughan gyda Maria Korchinska ar ôl graddio o’r Academi Gerdd Frenhinol. Chwaraeodd i Opera yr Alban a Cherddorfa Siambr yr Alban cyn dod yn Brif Delynores Cerddorfa Genedlaethol yr Alban. Ar ôl iddi ddychwelyd i Lundain fe’i penodwyd yn Gyd-bennaeth i Osian Ellis yng Ngherddorfa Symffoni Llundain, gan ymddeol yn 2015 ar ôl trideg mlynedd. Bu Karen yn athrawes yn Ysgol Purcell ac yn Academi Cerdd a Drama Frenhinol yr Alban cyn ymgymryd â’i swydd bresennol fel Pennaeth y Delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Mae hi wedi rhoi dosbarthiadau meistr ledled y byd ac wedi hyfforddi cerddorfeydd ieuenctid yn y DU, Sbaen a Siapan. Fel Cyfarwyddwr Artistic Cyswllt i Gyngres Delynau’r Byd, mae’n edrych ymlaen at y gyngres gyntaf a fydd yng Nghaerdydd yn 2020.