Mae rhaglen y delyn yn y DIT Conservatory of Music and Drama (Dulyn, Iwerddon) yn cwmpasu cerddoriaeth glasurol a/neu gerddoriaeth draddodiadol Wyddelig gyda myfyrwyr yn astudio ar lefel iau, is-radd ac ôl-radd. Mae myfyrwyr yn arbenigo mewn cerddoriaeth glasurol neu Wyddelig drwy Faglor mewn Cerddoriaeth, Baglor mwn Addysg Gerddorol, Meistr mewn Perfformio a rhaglenni doethuriaeth, gan astudio gyda Denise Kelly McDonnell, Clíona Doris a Grainne Hambly. Mae rhaglen y delyn wedi’i llunio er mwyn datblygu sgiliau unawdol ac ensemble, ac mae’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o ensembles gan gynnwys y Gerddorfa Symffoni, Ensemble Chwyth, Ensemble Cerddoriaeth Draddodiadol Wyddelig, Ensemble Cerddoriaeth Gynnar ac amrywiaeth o ensembles siambr. 109
Mae Ensemble Telyn DIT yn un o’r ensembles mwyaf gweithredol o ran perfformio repertoire glasurol, Gwyddelig a chyfoes dan arweiniad Denise Kelly McDonnell. Cafodd yr ensemble flwyddyn wych yn 2016, gan deithio i’r Alban i berfformio mewn cyngerdd amser cinio yn ystod Gŵyl Delynau Ryngwladol Caeredin, perfformio i EUB Tywysog Cymru yng Nghastell Hillsborough, a pherfformio yng Nghyngerdd ‘Rising Stars’ yr RDS. Yn ogystal, bu’r grwp yn perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau yn Nulyn, yn cynnwys perfformiad ar ‘Culture Night’ a digwyddiadau ‘Reflecting the Rising’ y TRÉ.