Mae Cai yn 17 oed ac yn brif ddisgybl yn Ysgol Tryfan, Bangor. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y byd canu gwerin ers yn ifanc ac mae’n ddyledus iawn i bobl fel Mair Carrington Roberts, Arfon Gwilym a Sioned Webb am hybu’r diddordeb yma ynddo. Mae wedi cystadlu’n gyson yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedalethol dros y blynyddoedd a’r flwyddyn diwethaf bu’n ddigon lwcus i ennill cystadleuaeth y gân werin agored yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. “Dwi wrth fy modd yn perfformio caneuon gwerin gan eu bod yn rhoi cyfle i mi ‘siarad’ yn uniongyrchol â’r gynulleidfa yn ogystal â’r cyfle i fynegi fy hun drwyddynt”.