Ganwyd Ann Jones yn Llanymawddwy ac fe’i hysbrydolwyd yn ifanc iawn gan y Dafydd Roberts, (y Telynor Dall) a Nansi Richards, – a chanddi hi y cafodd ei gwers gyntaf. Aeth i ysgol Gymraeg yn Llundain i ddysgu’r delyn gydag Anne Ross a Gwendolen Mason. Yn ddiweddarach, astudiodd yn yr Academi Frenhinol yn Llundain dan Osian Ellis. Bu’n gweithio gyda Cherddorfa Gwlad yr Iâ cyn dychwelyd i Lundain fel cerddor llaw-rydd. Yn 1968 derbyniodd wahoddiad i chwarae gyda Cherddorfa Radio RTE yn Nulyn a rhoddodd Ann ei thelyn ar y cwch yng Nghaergybi ac ymunodd a’r gerddorfa. Yna mae wedi bod ers hynny. Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn mwynhau dysgu’r Gwyddelod sut i chwarae cerddoriaeth Cymraeg!