Fel un o eiconau’r delyn heddiw, dathlir dawn Isabelle Moretti trwy’r byd. Yn ystod tymor 2017 – 2018, rhoddodd y perfformiad cyntaf o ‘Danse Libre’, Consierto i’r Delyn gan Bruno Mantovani gyda Cherddorfa Siambr Paris. Hefyd ymddangosodd yng ngŵyl ‘Nosweithiau Rhagfyr’ ym Moscow, yn y Concertgebouw, Amsterdam a chwaraeodd gyda Cherddorfa Siambr Lausanne. Isabelle Moretti yw Athro’r Delyn yn y Conservatoire ym Mharis, ac yn Athro Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ers 2008. Cydnabyddwyd ei chyfraniad disglair i gerddoriaeth trwy ei hanrhydeddu fel Swyddog yn yr ‘Order of Merit’ a’r ‘Order of Arts & Letters’ yn Ffrainc.