Cystadleuaeth

Pencerdd

Agored i delynorion a aned ar, neu ar ôl, Medi 1af 1987

Mae’r broses cofrestru ar gyfer y Gystadleuaeth Pencerdd nawr ar gau, ac nid ydym yn derbyn ceisiadau hwyr ar gyfer y gystadleuaeth yma.

Cylch 1: Rhaglen (20’)

Dydd Sadwrn, 8 Ebrill am 9:00am.

Rhaglen amrywiol, i gynnwys un o’r canlynol:

John Metcalf: Unrhyw ddau ddarn allan o Llyfr Lloffion y Delyn (Curiad)
Albert Roussel: Impromptu (Durand)
Alun Hoddinott: Fantasy for Harp (Oxford University Press)
Domenico Scarlatti: Sonata yn A fwyaf, K113 A Collection of 17 Sonatas arr. McDonald / Wood (Music Works – Harp Editions) [Cystadleuwyr i benderfynu os am gynnwys y ‘repeats’ neu beidio].
Elias Parish-Alvars: Serenade (Adlais)

Cylch 2: Rhaglen (25’)

Dydd Llun, 10 Ebrill am 9:00am

Rhaglen amrywiol, i gynnwys un o’r canlynol. Ni ellir ail-adrodd unrhyw ddarn o’r Cylch 1af:

J. S. Bach: Suite BWV 1006a tr. Sioned Williams (Oxford University Press)
Paul Hindemith: Sonata (1939) (Schott)
Louis Spohr: Fantaisie yn C leiaf Op.35 (Barenreiter)
Felix Godefroid: Carnival de Venise (unrhyw argraffiad)
Benjamin Britten: Suite for Harp Op.83 (Faber Music)

Cylch 3:

Dydd Mawrth, 11 Ebrill am 7:30pm

Rhaglen 30’ i gynnwys:

I gynnwys Camille Saint-Saëns: Fantasie Op.124 – Telyn a Ffidil (Durand); Ffidil: Simon Chalk.
Caniateir ailadrodd un darn o Gylch 1 neu 2.

Gwobrau

1st: £5,000
2nd: £2,000
3rd: £1,000

£80

Mae hyn yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl gan gynnwys y cyngherddau nos

Beirniaid

John Metcalf (Cadeirydd)

Mae John Metcalf yn gyfansoddwr Cymreig/Canada blaenllaw y mae ei waith, a gynrychiolir gan gatalog diffiniol o recordiadau, wedi cael sylw eang yn rhyngwladol. Mae ei allbwn creadigol yn cynnwys saith opera, dwy i’w comisiynu gan Opera Cenedlaethol Cymru, a’r mwyaf diweddar yw ei opera uchel ei chlod i destun eiconig Under Milk Wood gan Dylan Thomas.

Wrth ddychwelyd i gyngherddau byw yn 2022 yn dilyn y pandemig gwelwyd perfformiad cyntaf Hallelujah ar gyfer côr 8 rhan, gwaith piano newydd o’r enw Metaphysical Studies a recordiad o bedwarawd llinynnol newydd Towards Silence.

Roedd 2022 hefyd yn nodi dychweliad i gyngherddau byw Gŵyl Bro Morgannwg – dathliad cyfansoddwyr byw – y mae’n Gyfarwyddwr Artistig sefydlu’r ŵyl.

Mae John Metcalf yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Caerdydd, Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ym 1999 chwaraewyd ei gerddoriaeth wrth i’w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth 11 lofnodi’r Ddeddf a ddaeth i fodolaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Imogen Barford

Imogen Barford yw Pennaeth y Delyn yng Ngholeg Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain. Mae ei gyrfa llawrydd brysur wedi cwmpasu ystod eang iawn o weithgareddau: unawdydd concerto; gwaith cerddorfaol gyda holl brif gerddorfeydd symffoni Llundain, opera a bale; cerddoriaeth siambr helaeth; cerddoriaeth gyfoes a cherddoriaeth gynnar ar offerynnau gwreiddiol; yn ogystal â darllediadau radio a theledu, recordiadau a theithiau tramor.

Mae ei hymrwymiad i gerddoriaeth gyfoes wedi arwain at nifer o berfformiadau cyntaf, a gwobrau comisiynu, ac yn 2013 dechreuodd Imogen gomisiynu cyfres o unawdau telyn a gweithiau siambr gan Simon Holt, Robert Saxton, Julian Phillips, Mark Anthony Turnage, Hannah Kendall ac Eloise Gynn.

Mae Imogen wedi rhoi dosbarthiadau meistr ledled Ewrop ac mae galw mawr amdani fel arholwr a beirniad. Mae hi wedi bod yn aelod rheithgor ar gyfer Cystadlaethau Telyn Rhyngwladol yng Ngwlad Pwyl, yr Almaen, Awstria, Hwngari a Chymru, yn ogystal â Cherddor Ifanc y Flwyddyn y BBC. Mae hi wedi beirniadu ledled y DU ac yn Yr Hâg, Oslo a Genefa. Mae Imogen hefyd yn athrawes gymwysedig yn y Dechneg Alexander.

Veronica Lemishenko

Veronika Lemishenko yw Cyfarwyddwraig cystadleuaeth a Gŵyl ‘Glowing Harp’ yn Kharkiv, (Wcráin), a chyd-sylfaenydd y ‘Veronika Lemishenko Charity Foundation’ . Mae’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Cyngres Telynau’r Byd, ac enillodd wobrau mewn cystadlaethau telyn rhyngwladol – yng Nghymru, Ffrainc, Sbaen, Wcráin, y Weriniaeth Tsiec, Bwlgaria, Rwsia, Groeg a Singapôr . Bu’n perfformio mewn gŵyliau cerddorol rhyngwladol: La Folle Journee, Gŵyl Camac (Ffrainc), Harp Masters Festspiele (Y Swistir) a Seminar Telyn Lisboa (Portiwgal).

Bu’n perfformio fel umawdydd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a’r Esplanade (Singapore), ac yn chwarae yng ngherddorfeydd y Vienna Konzerthaus (Awstria), Berliner Philharmonic (Almaen), Paris Philharmonic (Ffrainc), Teatro La Fenice (Yr Eidal). Mae’n gydweithio’n frwd â chyfansoddwyr cyfoes, ac ymhlith y rhai a ysgrifennodd weithiau newydd i Veronika mae Paul Patterson, Evgen Andreev a Valeriy Antonyuk. Veronika yw telynores cerddorfa HNK (Osijek, Croatia) a cherddorfa Symffoni Genedlaethol Wcráin (Kyiv, Wcráin) ac mae wedi rhyddhau dwy gryno ddisg.

Ers i’r rhyfel ddechrau yn yr Wcráin mae Veronika wedi agor cynllun codi arian a drefnwyd gan “Veronika Lemishenko Charity Foundation” a “Glowing Harp”.

Sioned WIlliams

Am 27 mlynedd o 1990–2017, bu Sioned – sy’n dod yn wreiddiol o sir y Fflint – yn Brif Delynores Cerddorfa Symffoni’r BBC yn Llundain, ac mae hi’n parhau gyda’i gyrfa brysur yn rhoi datganiadau ac yn darlledu, recordio, ymchwilio ac addysgu. Lluniodd y cwrs integredig cyntaf erioed ar gyfer telynorion yn y DU, yng Ngholeg y Drindod, Llundain, a hi hefyd oedd y person cyntaf i gyfansoddi darnau fel profion darllen ar yr olwg gyntaf yn arbennig i’r delyn mewn arholiadau ABRSM.

Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cyflwyno deuawdau gyda’r ffliwtwyr James Galway, William Bennett ac Aurèle Nicolet, y sielydd Stephen Isserlis, a’r cantorion Michael Chance, Martyn Hill, Neil Mackie, Lisa Milne, Mark Padmore, Andrew Watts, Roderick Williams, Anthony Rolfe-Johnson a Frederica von Stade; bu’n gweithio gyda’r BBC Singers, Corws y BBCSO, Cantamus, Holst Singers, The Sixteen, Tenebrae, Winchester Quiristers, a chorau Coleg yr Iesu Caergrawnt, Cadeirlan St Paul’s, ac Abaty a Chadeirlan Westminster, mewn cyngherddau ac ar recordiau a disgiau a enillodd wobrau.

Mae Sioned yn ehangu repertoire y delyn yn gyson trwy gyflwyno perfformiadau cyntaf o ddarnau newydd, a chomisiynu gweithiau arloesol, yn cynnwys concertos ar y Midi-Harp unigryw a adeiladwyd gan gwmni Camac, a’r Delyn Soveida o Bersia. A hithau wedi bod yn Llywydd yr UKHA am 14 mlynedd, mae Sioned yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ac mae’n mwynhau llunio datganiadau darluniadol difyr ar ystod eang o bynciau.