Newyddion

Gŵyl yn mynd yn rhithiol i dalu gwrogaeth i’r telynor byd-enwog Osian Ellis
Bydd gŵyl gerddoriaeth nodedig sy’n mynd yn rhithiol am y tro cyntaf yn ei hanes yn talu gwrogaeth i’r telynor byd-enwog Osian Ellis a fu farw yn gynharach eleni. Bu’n rhaid canslo Gŵyl Delynau Cymru 2020 ar y funud olaf yn dilyn y pandemig Coronafeirws ond eleni...

Athrawon y cwrs : Diweddariad
Mae'n ddrwg iawn gennym na fydd Ann Jones yn gallu cymeryd rhan yng Ngwyl Delynau Cymru eleni oherwydd amgylchiadau personol trist. Yn ddiweddar iawn bu farw ei gŵr. Gyrrwn ein cydymdeimlad dwysaf ati hi a'r teulu.

Lansio ein Gŵyl Delynau “Rhithiol” cyntaf
Neges gan Elinor Bennett, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl: Cofio - talu teyrnged - a throsglwyddo'r awen fydd prif themâu Gŵyl Delynau Cymru eleni. Tristwch mawr oedd clywed ym mis Ionawr am farwolaeth Osian Ellis, Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl hon, un o'r...

Osian Ellis (1928-2021)
Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru. Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn...

Datganiad parthed Gŵyl Delynau Cymru 2020
Gyda chalon drom yr ydym yn rhoi gwybod i chi bod rhaid gohirio Gŵyl Delynau Cymru oedd i fod i’w chynnal o’r 8-9 Ebrill oherwydd y sefyllfa gyda’r feirws Covid-19. Fodd bynnag rydym yn benderfynol mai ail-drefnu ac nid canslo fyddwn i a byddwn mewn cysylltiad efo chi...

Cyn-Delynores Frenhinol yn cadw’i haddewid i berfformio ar ôl gwella o ganser
Mae telynores fyd-enwog, a fethodd gymeryd rhan mewn gŵyl fawr oherwydd ei bod yn brwydro yn erbyn canser y fron, am gadw ei haddewid i berfformio yn yr ŵyl eleni. Bydd Catrin Finch, cyn-delynores frenhinol, yn cymryd rhan flaenllaw yng Ngŵyl Delynau Cymru a...

Telynores ddawnus yn camu o Neuadd Albert Hall i gartref gofal ger Caernarfon
Mi wnaeth un o delynorion ifanc mwyaf dawnus y Deyrnas Unedig gyfnewid Neuadd Albert yn lundain am gartref gofal yng Nghaernarfon. Rhoddodd Elfair Grug, 29 oed, sydd wedi perfformio yn y lleoliad mawreddog yn Llundain, berfformiad rhyfeddol i breswylwyr Bryn Seiont...

Apêl Noddi Tant yn breliwd i lwyddiant telynorion disglair y dyfodol
Mae canolfan dysgu enwog yn gobeithio i daro tant ag unigolion sy’n caru cerddoriaeth drwy roi’r cyfle iddyn nhw gefnogi astudiaethau telynorion ifanc talentog. Mae Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon, a ddarparai hyfforddiant i dros 400 o gerddorion o bob...

Cyngerdd emosiynol i gofio boddi pentref Capel Celyn
Datgelodd un o delynorion pennaf Cymru y bydd perfformiad cyntaf darn newydd o gerddoriaeth i gofio am foddi dadleuol pentref Capel Celyn yn achlysur hynod emosiynol iddi. Arweiniodd taid Sioned Williams, Huw T Edwards, yr ymgyrch yn erbyn boddi Capel Celyn yng Nghwm...