Cystadleuaeth

Iau

Agored i delynorion a aned ar, neu ar ôl Medi 1af 2009

Mae’r broses gofrestru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yma bellach wedi cau.

Dydd Iau, 6 Ebrill am 9:00am

Rhaglen hunan-ddewisiad hyd at 7 munud o hyd.

Gwobrau

Tair Ysgoloriaeth gyfartal o £300 ar gyfer hyfforddiant telyn

£30

Mae hyn yn cynnwys tocyn i’r cystadleuydd a rhiant / gofalwr i un cyngerdd nos o’u dewis a mynediad i holl weithgareddau yn ystod y dydd yr Wyl i’r cystadleuydd.

Beirniaid

Gillian Green

Daw Gillian o Griccieth a hi oedd un o’r myfyrwyr cerdd cynta i fynychu Ysgol Gerdd Chetham ym Manceinion. Derbyniodd ei haddysg bellach ym Mhrifysol Caerdydd gan astudio’r delyn gyda Elinor Bennett, Ann Griffiths ac Aileen MacArdle. Buodd yn diwtor telyn ym Morgannwg Ganol am nifer o flynyddoedd cyn derbyn nawdd oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru i ddilyn cwrs mewn Gweinyddu’r Celfyddydau ym Mhrifysgol City, Llundain. Penodwyd hi yn Gyfarwyddydd cynllun Yehudi Menuhin Live Music Now ym 1990 a bu’n Gyfarwyddydd Clyweliadau LMN yn y D.U. tan 2020. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun a Gorllewin Cymru.

Catrin Williams

Astudiodd Catrin gyda Ceinwen Roberts, Elinor Bennett a gyda Marisa Robles yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Lundain. Bu’n un o ennillwyr ‘Cerddor Ifanc Cymru’ ac hefyd yn aelod o gerddorfa ‘Schleswig Holstein Musik Festival’ yn chwarae o dan yr arweinydd Leonard Bernstein. Ers 1990 mae Catrin yn delynores yng ngherddorfa Filarmonic Gran Canaria ac yn chwarae gyda cerddorfeydd eraill yn Ewrop. Cafodd ei gwahodd i weithio an ddwy flynedd yng ngherddorfa newydd opera Valencia (Les Arts). Mae hi’n perfformio conciertos telyn yn gyson gydag arweinyddion megis Andrés OrozcoEstrada, Gianandrea Noseda a Frederic Chaslin. Ym mis Chwefror bu’n cylchdeithio gyda Cerddorfa Symffonic Kyiv yn chwarae consierto telyn Glière. Mae hi wedi recordio concierto telyn Ginastera i Arte Nova, El Castillo de Almodovar gan Turina i ASV, a concierto Lutoslawski i obo a telyn i Summit Records. Mae Catrin with ei bodd gyda cherddoriaeth siambr ac mae ganddi ddeuawd obo a telyn gyda’i gwr Salvador Mir. Maent wedi gwneud y perfformiad cyntaf yn Spaen o gonsierto obo a telyn Lutoslawski ac fe gyfansoddodd Agustin Charles gonsierto iddynt. Mae hi’n diwtor telyn yng Ngherddorfa Ieuenctid Sbaen ac yn ddiweddar bu’n dysgu yng Ngherddorfa Ieuenctid Colombia.