Gŵyl Delynau Cymru 2021
Trosglwyddo’r Awen
30 + 31 Mawrth 2021
Cyfarwyddwr Artistig: Elinor Bennett

Llywydd yr Ŵyl: Osian Ellis
(1928 – 2021)
Digwyddiadau
Neges gan Elinor Bennett
Cyfarwyddwraig artistig

Trosglwyddo’r awen o ganu’r delyn i genhedlaeth newydd yw prif nôd yr Ŵyl rithiol hon.
Bydd yn gyfle i gofio tri o gewri byd y delyn a fu farw’n ddiweddar, ar gân ac ar lafar, gyda disgyblion a chyfeillion Osian Ellis yn dysgu ac yn perfformio.
Ynghanol trybini Covid, mae’r delyn a’i cherddoriaeth yn codi’r galon ac yn cyfoethogi bywydau.


Bywgraffiadau
Elinor Bennett, Elen Hydref
Ann Jones:
Mae’n ddrwg iawn gennym na fydd Ann Jones yn gallu cymeryd rhan yng Ngŵyl Delynau Cymru eleni oherwydd amgylchiadau personol trist. Yn ddiweddar iawn bu farw ei gŵr. Gyrrwn ein cydymdeimlad dwysaf ati hi a’r teulu.

Caiff Gŵyl Delynau Cymru ei threfnu gan Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu hyfforddiant a phrofiadau cerddorol o safon uchel i bobl o bob oed yn ei chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun a thrwy raglen eang o brosiectau addysgol a chymunedol.