
Dosbarth Meistr Elinor Bennett, Cyfarwyddwr Artistig
30 Mawrth 2021, 4:00 – 5:30pm
Hoffech chi dderbyn sylwadau ac awgrymiadau i’ch helpu tra’n paratoi a dehongli darn o gerddoriaeth?
Ydech chi yn paratoi darn newydd tuag at arholiad neu gyngerdd sydd ar y gorwel?
Mae Elinor Bennett yn gwahodd telynorion i yrru recordiad o ddarnau sydd yn y broses o gael eu dysgu ac yn cynnig help wrth eu paratoi a’u dehongli. Nid oes raid i’r recordiad fod yn waith gorffenedig – a bydd pob recordiad a dderbynnir yn cael ei warchod a’i ddileu wedi i’r dosbarth ddod i ben.
Yn ogystal â thrafod pwyntiau cyffredinol sydd wedi dod i’r amlwg wrth wylio’r perfformiadau, bydd Elinor yn dewis 5 neu 6 o’r perfformiadau fideo i’w chwarae a’u trafod yn fwy manwl yn y dosbarth meistr. Bydd bob person sy’n cofrestru yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eu perfformiadau.
Roedd Elinor yn ddisgybl i Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a bu hefyd yn gweithio’n agos gyda William Mathias, John Metcalf a chyfansoddwyr eraill cyfoes.
Darnau a awgrymir: Hunan ddewisiad o repertoire uwch i diploma.
Cynhelir y dosbarth meistr ar Zoom.
Cost i gofrestru: £15
Dyddiad cau gwneud cais i gymryd rhan: 5 Mawrth 2021
Dyddiad cau i yrru eich fideo i ni: 12 Mawrth 2021