
Cefnogwch ni!
Hoffech chi gefnogi elusen Canolfan Gerdd William Mathias, trefnwyr Gŵyl Delynau Cymru? Ystyriwch gwneud rhodd os gwelwch yn dda.
Cyngerdd yr Ŵyl
Teyrnged Osian Ellis
Elinor Bennett & Elen Hydref
31 Mawrth 2021, 8:00pm
Rhaglen:
Osian Ellis: Dagrau / Lachrymae
Benjamin Britten: Suite for Harp
Osian Ellis: Clymau Cytgerdd i 2 delyn 1. Chwarae mîg. 2. Canu Penillion 3. Hel Straeon
Cyngerdd byr rhithiol yw hwn i dalu teyrnged i Osian Ellis, un o’r telynorion mwyaf a welodd Cymru erioed. Wrth curadu’r cyngerdd, rydym yn hyderus y caiff yr awen o gyfansoddi a chariad at delyn ei throsglwyddo i genhedlaeth newydd o gerddorion. Roedd Elinor Bennett yn ddisgybl i Osian Ellis yn yr Academi Gerdd yn Llundain, a hi oedd athrawes Elen Hydref yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, flynyddoedd yn ddiweddarach. Erbyn hyn mae Elen yn delynores broffesiynol uchel iawn ei pharch yng Ngwledydd Prydain ac yn cynrychioli’r genhedlaeth newydd.
Bydd y gyngerdd ar gael o 8:00pm ar ddydd Mercher, 31.3.21 Nid oes angen prynu tocyn gwylio ond byddwn yn croesawu rhoddion.
Artistiaid

Elinor Bennett
Astudiodd ELINOR BENNETT gydag Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ar ôl graddio yn y Gyfraith, a bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain yn gynnar yn ei gyrfa. Recordiodd 15 albwm yn amrywio o gerddoriaeth telyn yr 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru.
Ysgrifennodd sawl cyfansoddwr gerddoriaeth i Elinor, a cyfarwyddodd astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, a Doethuriaeth gan Brifysgol Cymru. Elinor yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai.

Elen Hydref
Mae’r delynores Elen Hydref yn mwynhau gyrfa o weithio gyda rhai o gerddorfeydd gorau Prydain a Norwy, gan gynnwys Cerddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Royal Ballet Sinfonia, Cerddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol, City of Birmingham Symphony Orchestra, Bergen Philharmonic Orchestra a Cherddorfa Cwmni Opera a Balet Cenedlaethol Norwy.
Yn ogystal a’i gyrfa gerddorfaol mae Elen yn mwynhau dysgu ac wedi bod yn diwtor sawl gwaith ar gyrsiau Cerddorfa Blant Genedlaethol Prydain a Gŵyl Delynau Cymru.
Astudiodd Elen gydag Elinor Bennett a Dylan Rowlands yng Ngogledd Cymru cyn symud i Lundain i astudio gyda Skaila Kanga a Catherine White yn Ysgol Gerdd Purcell a’r Academi Gerdd Frenhinol.
Tra yn paratoi at gylch terfynol llinynnol cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC yn 2004, trefnodd Elinor Bennett i Elen dderbyn cyfres o wersi gan y diweddar Osian Ellis.