Cwrs yr Ŵyl
Cwrs deuddydd diddorol dros ben sy’n apelio at delynorion o bob oedran a chyrhaeddiad.
Amserlen y Cwrs
Dydd Mercher, 8 Ebrill 2020
9:00am – 9:30am: Cyrraedd a chofrestru (holl aelodau dros 18 oed)
9:20am – 9:40am: Cyrraedd a chosrestru (holl aelodau dan 18 oed)
10:00am – 1:00pm: Dosbarthiadau a Gweithdai
1:00pm – 2:00pm: Cinio
2:00pm – 3:30pm: Cyngerdd gan Gôr Telyn Plant Dulyn ac aelodau’r cwrs.
4:00pm – 5:00pm: Gweithdy Jazz gyda Ben Creighton-Griffiths / Ymarferiadau / Dosbarthiadau
6:00pm: Cystadleuaeth Ymddiriedolaeth Nansi Richards (Stiwdio 2)
Dydd Iau, 9 Ebrill 2020
10:00am – 1:00pm: Dosbarthiadau
1:00pm – 2:00pm: Cinio
2:00pm – 3:00pm: Gweithdy Cyfansoddi / Gwenllian Llŷr a Mared Emlyn
5:00pm: Galeriau Galeri
6:00pm: Cyngerdd Caffi gyda rhai o aelodau’r Cwrs
7:30pm: Cyngerdd yr Ŵyl
Mae’n bosib y gall yr amserlen uchod newid.
Bydd gennym ni ddosbarthiadau i blant cynradd a dechreuwyr i delynorion uwchraddol, ynghyd â dosbarth arbennig i oedolion.
Athrawon y Cwrs
Fe fydd tîm o athrawon ardderchog yn rhoi gwersi a byddwn yn gosod aelodau o’r cwrs yn y dosbarth mwyaf addas.

Elinor Bennett

Astudiodd ELINOR BENNETT gydag Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ar ôl graddio yn y Gyfraith, a bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain yn gynnar yn ei gyrfa. Recordiodd 15 albwm yn amrywio o gerddoriaeth telyn yr 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru.
Ysgrifennodd sawl cyfansoddwr gerddoriaeth i Elinor, a cyfarwyddodd astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, a Doethuriaeth gan Brifysgol Cymru. Elinor yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai.

Dylan Cernyw

Mae Dylan yn delynor, perfformiwr ac athro sy'n gweithio yn y Gogledd. Ac wedi perfformio yn Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Canada, Prague, Tsieina a'r Swistir. Mae Dylan wedi gwneud ymddangosiadau gwadd yng Ngwyl o Fil o leisiau yn Llundain ac mae wedi perfformio gydag artistiaid megis Bryn Terfel, Katherine Jenkins, John Owen Jones, Sioned Terry, Shân Cothi, Rhys Meirion, Rhydian Roberts a Rebecca Evans. Mae Dylan wedi cynhyrchu sawl albwm, mae 3 ohonynt yn unigol, 4 albwm Piantel ac 3 albwm gyda delynores Cymru Gwenan Gibbard ar gyfer Sunrise Music o Hong Kong. Ar wahân i'w albwm ei hun, mae Dylan wedi ymddangos ar nifer fawr o gryno ddisgiau fel cyfeilydd. Mae Dylan yn un hanner y "Piantel" sydd wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd ers 13 mlynedd, ac yn perfformio gyda Two Blondes and a Harp.

Clíona Doris

Bu Clíona Doris yn perfformio fel unawdydd a cherddor siambr yn Iwerddon, Prydain, Ewrop ac America. Darlledwyd perfformiadau ganddi ar BBC Radio 3, Radio Ulster, RTÉ LyricFM, National Public Radio USA, ClassicFM TV, UTV, Teledu’r BBC ac RTÉ a bu’n unawdydd yn y Proms in the Park, Belfast. Yn hybwr brwd o gerddoriaeth gyfoes, rhoddodd Clíona’r perfformiad cyntaf o weithiau gan nifer o gyfansoddwyr. Rhyddhaodd ddwy albwm unawdol, a ‘r Consierto Telyn gan Handel gyda Cherddorfa Gyngerdd RTÉ. Graddiodd gyda gradd Doethur mewn Cerddoriaeth ym Mhirfysgol Indiana, Bloomington, USA, a chychwynnodd astudio’r delyn yn Ysgol Gerdd Belfast gyda Denise Kelly cyn graddio ym Mhrifysgol Queens, Belfast.Ymunodd Cliona â’r DIT Conservatory of Music yn 2005, a bellach hi yw Phennaeth y Conservatory.

Mared Emlyn

Cwblhaodd Mared ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith ‘Perlau’ yn y Glaw ar gyfer y delyn sydd erbyn hyn yn cael ei berfformio yn aml mewn cystadlaethau telyn. Mae wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac yn ddiweddar, concerto telyn ar gyfer Gŵyl Biwmares.

Denise Kelly

Mae Denise Kelly yn darlithio mewn astudiaethau Telyn yn y Conservatory Gerdd y DIT yn Nulyn. Graddiodd yng Ngholeg y Drindod a’r Conservatory Gerdd y DIT, Dulyn ac ymhlith ei hathrawon roedd Maria Korchinska, Sidonie Goossens (Coleg Guildhall, Llundain) a Francette Bartholomée ( Conservatoire Frenhinol Brwsel). Bu Denise yn athrawes yn Ysgolion Cerdd Belfast a Cork, yn yr Academi Gerdd Frenhinol Dulyn a Cherddorfa Ieuenctid Iwerddon. Mae’n cyfansoddi, yn trefnu cerddoriaeth ac yn gweithio fel cerddor siambr a chyfeilydd. Bu’n recordio gyda Cherddorfa Ulster, a dwy gerddorfa’r RTE yn Iwerddon fel prif delynores ac unawdydd.

Gwenllian Llŷr

Mae’r delynores Gymreig Gwenllian Llŷr yn prysur ennill cydnabyddiaeth rhyngwladol am ei pherfformiadau carismatig ac egnïol. Yng Ngorffennaf 2013, enillodd Gwenllian wobr yng Nghystadleuaeth Rhyngwladol UDA yn Bloomington, gan gael ei chanmol am ei dawn cerddorol a’i gallu i gysylltu â’r gynulleidfa. Mae hi hefyd wedi ennill nifer o wobrau yn fwy lleol, gan gynnwys y Rhuban Las yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 a Gwobr Len Lickorish i Gerddor Addawol yng Nghystadleuaeth ROSL 2018, yn ogystal a chael ei dewis fel Artist gyda City Music Foundation yn 2017.
Mae gyrfa Gwenllian wedi ei harwain ar draws y byd i berfformio mewn lleoliadau mawreddog gydag artistiaid adnabyddus, megis Rebecca Evans, Imogen Cooper, Al Jarreau, Matthew Rees a Bryn Terfel. Bu hi ar daith ar draws Prydain wrth i Sain ryddhau ei CD cyntaf, ‘O Wyll i Wawr’, gyda’r cylchgrawn UKHA yn clodfori ei pherfformiad “godidog”. Mae Gwenllian yn perfformio’n rheolaidd fel unawdydd gyda cherddorfeydd, gan ei galluogi i rannu gwlêdd o gerddoriaeth telyn gyda fwy o gynulleidfaoedd. Bu hi’n perfformio fel unawdydd gwâdd gyda Côrdydd ar lwyfan Zankel Hall yn Carnegie Hall, a mwynhâd mawr oedd cael perfformio cerddoriaeth Gymreig ar lwyfan mor adnabyddus. Bu hi hefyd yn ddiweddar yn perfformio Concerto tanllyd a rhythmig Ginastera gyda Sinffonia Milton Keynes, y Concerto cain a phoblogaidd i ffliwt a thelyn gan Mozart gyda Shirley Barningham a Cherddorfa Siambr Hallgate, yn ogystal â’r Danses lliwgar a chyferbyniol gyda Cherddorfa St John’s.
Cafodd Gwenllian y bleser o astudio gydag athrawon gwych mewn rhai o’r colegau gorau yn y bydd, gan ennill graddau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ysgol Juilliard ac yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Yn ogystal â nifer o ysgoloriaethau a chefnogaeth ariannol, enillodd Gwenllian nifer o anrhydeddau eraill yn ystod ei hastudiaethau, gan gynnwys Gwobr William Schuman am gyflawniad ac arwainyddiaeth rhagorol yng ngherddoriaeth gan Ysgol Juilliard. Cymerodd hi fantais lawn o’r cyfle i weithio gyda nifer o artistiaid gwahanol yn ystod ei hastudiaethau, gan ddatblygu ei dealltwriaeth a’i hoffder o gerddoriaeth siambr ac i ymestyn y repertŵar telyn. Fel eiriolwr cerddoriaeth gyfoes, mae Gwenllian wedi gweithio gyda nifer o gyfansoddwyr dros y ddegawd ddiwethaf, gan helpu cerddorion a chynulleidfaoedd i ddeall hyblygrwydd y delyn, gan ddiweddu mewn nifer o berfformiadau cyntaf y byd. Yn ystod ei blwyddyn olaf yn Ysgol Juilliard, bu Gwenllian yn gweithio gyda’r gyfansoddwraig Sayo Kosugi a’r dawnsiwr a’r coreograffydd Eve Jacobs ar Nebula, Blooming ar gyfer telyn a dawns. Bu hi hefyd yn gweithio ar gerddoriaeth siambr gyda disgyblion cyfansoddi Prifysgol Caerdydd, yn gyntaf gyda’r ffliwtydd Lisa Nelsen ar y prosiect ‘Music is Fragile?’, gan ddiweddu gyda perfformiad byd cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ymysg y gwaith celf wnaeth ysbrydoli’r cyfansoddiadau, ac yna gyda’r soprano Sarah Dacey yn y prosiect ‘Coma Notes’, gyda pherfformiad byd cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r bardd, James Nash.
Mae byd cerddorol Gwenllian yn ymestyn ymhellach na’r llwyfan, fel athrawes ac fel cyfansoddwr. Yn ogystal a’i gyrfa berfformio prysur, mae Gwenllian yn addysgu’n breifat, ar gyrsiau cerddoriaeth, ac yng Nghanolfan Gerddoriaeth Sadyrnau yn Latymer ac yng Ngoleg y Brenin yn Llundain. Mae hi hefyd yn gweithio i’r elusen Live Music Now, gafodd ei sefydlu gan Yehudi Menuhin, sy’n helpu ystod eang o bobl i sydd heb fynediad i gerddoriaeth byw.
Cofrestru
Er mwyn sicrhau ein bod ni’n eich gosod yn y grŵp mwyaf addas cwblhewch y ffurflen gofrestru a thalu ar-lein.
Ffi y cwrs ydy £70 sy’n cynnwys tocyn i Gyngerdd yr Ŵyl, os y dymunir.
Dyddiad Cau i Gofrestru: I’w Gadarnhau
Os yw’n well gennych chi dalu drwy ddull arall, cysylltwch â ni i drafod opsiynau.
Bydd cofrestru ar-lein yn agor yn fuan.