Cystadleuaeth

Cerdd Byd

Unrhyw Oedran

Ceisiadau Hwyr: Rydym yn derbyn ceisiadau hwyr ar gyfer y Gystaleuaeth Cerdd Byd tan 23:59pm ar y 12 Mawrth 2023.

Perfformiad yn seiliedig ar gerddoriaeth werin a thraddodiadol o unrhyw wlad neu draddodiad.

Unawd neu grwp o hyd at 5 aelod. Gall gynnwys sawl offeryn neu lais / lleisiau yn cynnwys Penillion ond rhaid cael o leiaf un delyn o unrhyw fath (e.e. celtaidd, guzheng, kora, koto, pedal, teires …)

Cylch 1

Rhaglen 15 munud o gerddoriaeth hunan-ddewisiad; (Cynhelir ar Ddydd Sul, 9 Ebrill am 9:00am)

Cylch 2

Perfformiad o raglen 20 munud. (Cynhelir ar ddydd Llun, 10 Ebrill am 2:00pm).

Gellir ail adrodd cerddoriaeth o gylch 1 yng nghylch 2 ond disgwylir bod o leiaf un darn / gân na pherfformiwyd yng nghylch 1.

Gwobrau

1af: £2,000
2il: £1,000
3ydd: £500

£60 am un perfformiwr a £10 yn ychwanegol am bob perfformiwr arall.
Mae hyn yn cynnwys mynediad i holl weithgareddau’r Ŵyl gan gynnwys y cyngherddau nos.

Beirniaid

Pwyll ap Siôn (Cadeirydd)

Yn gyfansoddwr a cherddoregwr, bu Pwyll ap Siôn yn ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor ers 1993, ac yn Athro ers 2014. Mae wedi cyhoeddi a golygu nifer o lyfrau ac erthyglau, yn bennaf ym maes cerddoriaeth minimalaidd, ac mae ei gerddoriaeth wedi derbyn perfformiadau gan rai o gerddorion amlycaf Cymru, gan gynnwys Elinor Bennett, Bryn Terfel, Llŷr Williams, Iwan Llewelyn-Jones ac Elin Manahan Thomas. Perfformiwyd ei opera gymunedol Gair ar Gnawd yn Theatre Ffwrnes, Llanelli yn 2015, mewn cynhyrchiad gan Opera Genedlaathol Cymru, i libreto gan Menna Elfyn. Fe gafodd ei gylch caneuon Chaotic Angels – gosodiad o gerddi gan Gwyneth Lewis – berfformiad cyntaf gan y soprano Celine Forrest a cherddorfa WNO o dan Lothar Koenigs yn Neuadd Dewi Sant yn 2016, ac fe dderbyniodd Die verruchten madchen von Mona (‘The Crazy Maids of Mona’), ar gyfer llais a piano trio, berfformiad cyntaf yng Ngŵyl Biano Ryngwladol Cymru yn 2021. Mae’n adolygu’n reolaidd ar gyfer y cylchgrawn Gramophone.

Zi Lan Liao

Dechreuodd Zi Lan Liao ddysgu chwarae’r Guzheng yn dair oed, pan oedd hi’n byw yn Guangzhou, Tsieina. Erbyn iddi fod yn naw oed roedd hi’n ennill prif wobrau gan gynnwys y Gystadleuaeth Gerddoriaeth Genedlaethol i’r Ieuenctid. Daeth i’r DU yn bymtheg oed a parhaodd â’i hastudiaethau cerddoriaeth yn Ysgol Gerdd Chetham a’r Academi Gerdd Frenhinol.
Mae Zi Lan wedi perfformio yn Ewrop, UDA ac Awstralia. Ymddangosodd fel unawdydd yn y Concerto Guzheng ‘The River’ gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl. Mae ei chydweithrediad â Jah Wobble – ‘Chinese Dub’ wedi ennill y wobr ‘Cross-Cultural Collaboration 2009’. Yn 2010, ymddangosodd Zi Lan fel unawdydd guzheng gyda’ Cherddorfa Ffilharmonic Frenhinol Lerpwl ar y cyfansoddiad ‘Oxbow’ a gyfansoddwyd gan Ian Stephens yn Shanghai World Expo, Tsieina.
Mae Zi Lan bellach yn Brif Swyddog Gweithredol Pagoda Arts, ac yn gyfarwyddwr cerdd Pagoda Chinese Youth Orchestra yn Lerpwl.

Parker Ramsey

Mae Parker Ramsay yn berfformiwr, awdur ac yn siaradwr cyhoeddus. Yr un mor gartrefol ar delynau modern a hynafol , ac yn angerddol am berfformio gweithiau newydd a rhai llai cyfarwydd er mwyn cyflwyno’r delyn i gynulleidfaoedd newydd.

Cydweithiodd â Marcos Balter, Nico Muhly a Josh Levine, ar gomisiynau a pherfformiadau cyntaf yn Theatr Miller ym Mhrifysgol Columbia, Casgliad Phillips, Gŵyl Spoleto UDA, IRCAM, y Princeton Sound Kitchen, King’s College Caergrawnt a Canada Council ar gyfer y Celfyddydau. Mae ei brosiectau nesaf yn cynnwys cydweithio â Sarah Kirkland Snider, Jared Miller, Aida Shirazi ac inti-figgis vizueta.

Ochr yn ochr ag Arnie Tanimoto sy’n chwarae’r Viola da Gamba, mae Parker yn gyd-gyfarwyddwr A Golden Wire, ensemble offerynnau cyfnod sydd wedi’i leoli yn Efrog Newydd. Mae wedi cyflwyno sgyrsiau, perfformiadau a darlithoedd ar offerynnau cynnar yng Nghasgliad Smithsonian a’r Amgueddfa Gelf Metropolitan, a chyhoeddodd waith yn VAN Magazine, Early Music America Magazine, y Washington Post a’r New York Times.

Wedi’i fagu yn Tennessee, dechreuodd Parker astudio’r delyn gyda’i fam, Carol McClure. Mae ganddo raddau o Gaergrawnt, Oberlin a Juilliard.