Neges gan Elinor Bennett, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl:
Cofio – talu teyrnged – a throsglwyddo’r awen fydd prif themâu Gŵyl Delynau Cymru eleni.
Tristwch mawr oedd clywed ym mis Ionawr am farwolaeth Osian Ellis, Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl hon, un o’r telynorion mwyaf a welodd Cymru erioed. Hefyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu farw Ann Griffiths a Mair Jones, dwy delynores eithriadol a fu’r dysgu cenedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru i ganu’r delyn. Mae’r Ŵyl yn gyfle inni gydnabod ein dyled i’r tri thelynor a diolchwn am eu cyfraniadau anhygoel i ddiwylliant Cymru ac i gerddoriaeth y delyn yn rhyngwladol.
Yn ystod wythnos y Pasg, arferai dwsinau o delynorion, yn ifanc a hŷn, ddod gyda’u telynau i Gaernarfon i gymeryd rhan yn yr Ŵyl Delynau yn Galeri, i gael gwersi, gwrando ar eraill, cymdeithasu a dysgu gyda’i gilydd. Eleni, er gwaethaf y Covid, byddwn yn cadw’r fflam yn fyw trwy drosglwyddo’r Ŵyl i fywyd newydd, rhithiol ar y we.
Bydd athrawon telyn blaenllaw yn rhoi gwersi trwy gyfrwng Zoom a chynhelir llawer o ddigwyddiadau eraill i gofio’n Llywydd, Osian Ellis, gan gynnwys y perfformiad cyntaf o’i waith newydd “Dagrau / Lachrymae” a gyhoeddwyd y llynedd .
Trosglwyddo’r awen o gewri’r gorffennol i genedlaeth newydd yw amcan yr Ŵyl. Ynghanol ein trybini, mae’r delyn a’i cherddoriaeth yn codi’r galon ac yn cyfoethogi bywydau.
Estynnwn groeso brwd i delynorion a chyfeillion y delyn o bob rhan o’r byd i ddod atom yn rhithiol i Gymru. Darllenwch am yr alwy a chliciwch ar y botwm “Cofrestru”. Felly, ewch ati ar eich hunion!!!
Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru.
Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn Ninbych, yn fab i’r Parch T.G. Ellis, gweinidog gyda’r Wesleaid, a’i athrawes gyntaf oedd Alwena Roberts (Telynores Iâl). Fel plentyn, bu’n canu penillion a chaneuon gwerin mewn cyngherddau yng Nghymru gyda’i fam ac aelodau eraill o’i deulu.
Yn dilyn cyfnod yn astudio’r delyn gyda Gwendolen Mason yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, olynodd ei athrawes fel Athro’r delyn yn y sefydliad hwnnw 0 1959 i 1989. Yn gynnar yn ei yrfa, ymddangosodd mewn rhaglenni teledu poblogaidd ar y BBC yng Nghymru, a rhoddodd nifer o berfformiadau o farddoniaeth a cherddoriaeth gydag actorion megis Dame Peggy Aschcroft, Dame Sybil Thorndyke, Cecil Day-Lewis, Hugh Griffith a Richard Burton.
Fel telynor gorau ac amlycaf ei gyfnod, fel athro telyn, cyfansoddwr, trefnydd, canwr penillion ac ysgolhaig, cyfrannodd yn helaeth i fyd cerddoriaeth werin y genedl yn ogystal â cherddoriaeth glasurol Ewropeaidd ei ddydd. Trwy gyfrwng recordiadau gyda chwmni Sain, Philips, Lyrita, Meridian a Decca, llwyddodd i ddwyn sylw i repertoire amrywiol y delyn, gan gynnwys cyfansoddiadau y 18fed, y 19eg a’r 20fed ganrif o Gymru. Teithiodd yn helaeth yn ystod ei yrfa, a hyrwyddodd y delyn a cherddoriaeth ei fam-wlad ym mhellafoedd byd.
Osian Ellis oedd Prif Delynor y London Symphony Orchestra o 1961 ymlaen, a gweithiodd gydag arweinyddion mawr y cyfnod megis Pierre Monteux, Pierre Boulez, Colin Davis, Antal Dorati, André Previn a Claudio Abbado. Bu’n unawdydd cyson gyda’r gerddorfa honno ac, fel telynor gwreiddiol y grŵp siambr Melos Ensemble, enillodd ei recordiad o’r Introduction et Allegro gan Ravel y Grand Prix du Disque ym Mharis yn 1962.
O ddechrau’r 60’au bu cydweithio dygn ac arwyddocaol rhyngddo ef a’r cyfansoddwr mawr Seisnig, Benjamin Britten, a chwaraeodd Osian mewn llawer perfformiad a recordiad yng Ngŵyl Britten yn Aldeburgh. Bu’r cyswllt a’r cydweithio parod hwn yn gyfrwng i’r delyn ennill ei lle yng ngweithiau Britten – gweithiau fel y War Requiem (1962), Midsummer Night’s Dream,Curlew River (1964), The Prodigal Son (1968) a’r gwaith pwysig i’r delyn – Suite for Harp(1969).
O 1973 – 1980 wedi salwch Benjamin Britten, cynhaliodd Osian Ellis lawer o gyngherddau gyda Peter Pears, ac ysgrifennodd sawl gwaith newydd ar eu cyfer. Yn ddiweddarach, ffurfiodd ddeuawd gyda’i fab, y diweddar Tomos Ellis (tenor), gan roi llawer perfformiad yng Nghymru a thramor.
Anogodd Osian Ellis nifer o gyfansoddwyr cyfoes o Gymru a thu hwnt i lunio gweithiau newydd ar gyfer y delyn – gan gynnwys William Mathias, Alun Hoddinott, Rhian Samuel, David Wynne, Malcolm Arnold, Robin Holloway, Elizabeth Machonchy, William Alwyn, Carlo Menotti a Jorgen Jersild.
Fel ysgolhaig, ymddangosodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfrolau ac erthyglau o sylwedd ar hanes y delyn yng Nghymru, Llawysgrif Robert ap Huw, John Parry ‘Ddall’ (Rhiwabon) a Cherdd Dant. Cyhoeddwyd ei The Story of the Harp in Wales gan Wasg Prifysgol Cymru a chymerodd ran mewn myrdd o raglenni teledu a radio yng Nghymru a Llundain.
Bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru. Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a’r CBE gan y Frenhines. Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.
Yn dilyn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed, deffrodd yr awen, a chyfansoddodd ddau waith newydd : ‘Cylch o Alawon Gwerin Cymru’ (ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone) a’i waith i delyn ‘Lachrymae’.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i fab, Richard Llywarch, ei ferch-yng-nghyfraith Glynis, a’i wyrion, David a Katie, yn eu profedigaeth.
Gyda chalon drom yr ydym yn rhoi gwybod i chi bod rhaid gohirio Gŵyl
Delynau Cymru oedd i fod i’w chynnal o’r 8-9 Ebrill oherwydd y sefyllfa
gyda’r feirws Covid-19. Fodd bynnag rydym yn benderfynol mai ail-drefnu
ac nid canslo fyddwn i a byddwn mewn cysylltiad efo chi yn fuan iawn
efo manylion pellach gan obeithio y byddwch yn awyddus i ymuno efo ni
ar y dyddiad newydd ymhellach ymlaen yn y flwyddyn. Os na fyddwch yn
gallu, yna wrthgwrs byddwn yn trefnu ad-daliad i’r rhai sydd wedi
cofrestru neu brynu tocynnau. Ond gofynnwn i chi fod yn amyneddgar am y
dyddiau nesaf gan ein bod yn gorfod gohirio / addasu ein rhaglen waith
gyfan ar hyn o bryd ac addasu i weithio fel staff o’n cartrefi. Yn y
cyfamser daliwch i ymarfer a cadwch lygad ar dudalen Facebook yr Ŵyl /
Canolfan Gerdd William Mathias lle byddwn yn postio fideos ag ati yn yr
wythnosau nesaf i godi calon pawb.
Mae telynores fyd-enwog, a fethodd gymeryd rhan mewn gŵyl fawr
oherwydd ei bod yn brwydro yn erbyn canser y fron, am gadw ei haddewid i
berfformio yn yr ŵyl eleni.
Bydd Catrin Finch, cyn-delynores
frenhinol, yn cymryd rhan flaenllaw yng Ngŵyl Delynau Cymru a gynhelir yng
Nghaernarfon ar y 17 a 18 Ebrill.
Wedi diagnosis o ganser y fron, derbyniodd
Catrin saith triniaeth o gemotherapi dros bedwar mis a chael mastectomi ddwbl
yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd.
Derbyniodd Ms Finch, sydd yn
wreiddiol o Lanon, Ceredigion, yr anrhydedd o fod yn Delynores Frenhinol yn 2000 – y person cyntaf ers 1872 i ddal y
swydd.
Roedd y pedair mlynedd a dreuliodd fel Telynores i
Dywysog Cymru yn ffordd wych i lansio gyrfa ddisglair iawn.
Ers hynny, bu’n perfformio’n
helaeth ledled UDA, De America, y Dwyrain Canol, Asia, Awstralia ac Ewrop, fel
unawdydd, gan ymddangos gyda llawer o gerddorfeydd gorau’r byd.
Dywedodd: “Roeddwn yn benderfynol
o berfformio yng Ngŵyl Delynau Cymru
eleni gan mai Elinor Bennett, Cyfarwyddwr yr Ŵyl, oedd fy athrawes telyn
am lawer blwyddyn.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr
iawn ac yn drist y bu raid imi golli’r digwyddiad y llynedd. ‘Doedd o ddim yn
bosibl oherwydd y driniaeth roeddwn yn
ei gael ar gyfer canser y fron.
“Ond dwi’n teimlo fod hynny o’r tu
cefn i mi ‘nawr a’m bod wedi gwella ac allan o’r afiechyd. Dwi’n gallu gwneud yr hyn dw’i yn ei garu
unwaith eto, ac mae gen i amserlen hynod
o brysur o fy mlaen i.
“ Mae wedi bod yn amser ofnadwy,
does dim cwestiwn am hynny. Yn anffodus, mae gennyn ddiffygiol gen i, ac arweiniodd
hynny at canser y fron.”
“ Y peth gwaetha mewn ffordd oedd imi fethu canu’r delyn am fisoedd,
rhwng Medi a Hydref. Roedd hynny’n anodd gan fy mod i’n ceisio ymarfer pob dydd
pan fydd fy amserlen yn caniatáu.”
“Roedd peidio chwarae yn brofiad
dieithr iawn, ond gallaf nawr roi hynny
y tu cefn i mi a chario ymlaen a’m bywyd. ‘Rwyn ddiolchgar iawn.”
Ychwanegodd Catrin: “ Yn y
cyngerdd, byddaf yn perfformio cerddoriaeth gan delynorion o Ffrainc a oedd yn
cyfansoddi adeg Cytundeb Versailles, union gan mlynedd yn ôl, yn ogystal â
cherddoriaeth gan Bach, Piazzola a William Mathias.
“ Yn yr un cyngerdd bydd
telynores wych o Awstria, Monika Stadler yn perfformio ei chyfansoddiadau jazz
ei hun. Yn sicr, bydd yn gymysgedd diddorol o arddulliau.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn
fawr at chwarae yng Nghaernarfon gan fy mod ar hyn o bryd yn ymwneud â
phrosiect gyda Seckou Keita, chwaraewr kora a drymiwr o Senegal.
“Rydym ni wedi rhyddhau dwy albwm
gyda’n gilydd ac yn teithio, gan ddod â chyfuniad o arddulliau cerddorol
gwahanol i gynulleidfaoedd ehangach. Dwi’n eithriadol o hapus gyda’r derbyniad
mae ein cerddoriaeth yn ei gael.”
“Rydw i hefyd yn gweithio ar drefniadau
i ddod â Chyngres Telynau’r Byd i
Gaerdydd yn 2020. Bydd hwn yn ddigwyddiad tebyg i’r Gwyliau Telyn Rhyngwladol a
drefnir gan Elinor Bennett yng Nghaernarfon, ac mi fydd yn braf gweld sut mae hi’n rhoi ei
gŵyliau hynod lwyddiannus at ei gilydd.”
Yn union fel y Gemau Olympaidd,
cynhelir yr Ŵyl Delynau Ryngwladol bob pedair blynedd, ac yn ystod y blynyddoedd eraill bydd Gŵyl Delynau Cymru (ar raddfa llai) yn annog telynorion ifanc ac yn datblygu
cynulleidfaoedd.
Dywedodd Elinor Bennett : “
Tyfodd yr Ŵyl allan o’r ysgolion telyn a gychwynnodd fy nhad (Emrys Bennett Owen) a minnau eu cynnal dros wyliau’r Pasg dros 40 mlynedd
yn ol.”
“ Yn ogystal â chroesawu Catrin
Finch a Monika Stadler i berfformio yng Nghaernarfon, cynhelir dosbarthiadau
telyn a gweithdai yn ystod y dydd ar gyfer myfyrwyr o bob oedran, gyda thîm o
athrawon profiadol o Ogledd Cymru – Dafydd Huw, Catrin Morris-Jones, Elfair
Grug a minnau.
“ Ar Ebrill 17 cynhelir y gystadleuaeth i
goffáu y delynores enwog, Nansi Richards, a fu farw yn 1979. Dyfernir yr
Ysgoloriaeth, sy’n werth £1500, i delynor neu delynores ifanc o Gymru.
Thema gŵyl eleni yw arwyddo
Cytundeb Versailles ym mis Mehefin 1919 a ddaeth â’r Rhyfel Mawr i ben.
Chwaraeodd y Prif Weinidog ar y
pryd, David Lloyd George, rôl bwysig, er dadleuol, wrth arwyddo’r cytundeb heddwch yn Ewrop.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr
Ŵyl Elinor Bennett: “Roedd David Lloyd George yn allweddol wrth arwyddo
Cytundeb Versailles a ddaeth ar ddiwedd
y Rhyfel dychrynllyd .
“Rwy’n credu ei bod yn
bwysig ein bod ni’n cofio’r cyfnod a’r rôl a chwaraeodd David Lloyd George (Aelod Seneddol Caernarfon) yn y trafodaethau.
“Tua’r un amser, gwahoddwyd Nansi Richards, y delynores Cymreig, i Downing Street i chwarae’r delyn ar gyfer
David Lloyd George a’i deulu.”
” Bydd Catrin Finch yn perfformio gweithiau gan dri chyfansoddwr / telynor Ffrengig
dylanwadol yn ystod yr ŵyl i gofio canmlwyddiant llofnodi’r cytundeb.
“Rydw i hefyd yn edrych
ymlaen at glywed gwaith Monika Stadler a fydd yn perfformio nifer o
gyfansoddiadau jazz ei hun.
“Mae Monika, sy’n byw yn
Fienna, yn dod a chwa o awyr iach a dimensiwn newydd i fyd cerddoriaeth y delyn
gyda’i chyfansoddiadau jazz, gwerin, clasurol a byrfyfyr. Yn ddiweddar, fe
ryddhaodd albwm o gerddoriaeth o’r enw “Song of the Welsh Hills.”
“Mi fydd hi’n Ŵyl ryfeddol arall
yn llawn o gyngherddau, dosbarthiadau a gweithdai.
” Hoffwn annog pawb sy’n
caru’r delyn a’i cherddoriaeth i brynu
tocyn a chofrestru ar gyfer y dosbarthiadau a’r gweithdai.”
Mi wnaeth un o delynorion
ifanc mwyaf dawnus y Deyrnas Unedig gyfnewid Neuadd Albert yn lundain am gartref
gofal yng Nghaernarfon.
Rhoddodd Elfair Grug, 29 oed,
sydd wedi perfformio yn y lleoliad mawreddog yn Llundain, berfformiad rhyfeddol
i breswylwyr Bryn Seiont Newydd, cartref gofal dementia Parc Pendine.
Cynhaliwyd y cyngerdd o ganlyniad
i bartneriaeth rhwng Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon ac
Ymddiriedolaeth Celf a’r Gymuned Parc Pendine ac fe’i galuogwyd gan gyllid Celfyddydau
a Busnes Cymru trwy eu rhaglen CultureStep.
Mae’n rhan o gyfres o 15 o
gyngherddau a gaiff eu cynnal yng nghartrefi gofal Parc Pendine yn Wrecsam a
Chaernarfon ac mewn lleoliadau eraill yn y gymuned
Uchafbwynt y prosiect fydd
cyngerdd gan y cyn-Delynores Frenhinol Catrin Finch yn Bryn Seiont Newydd ar
Ebrill 18, cyn ei pherfformiad yng nghyngerdd Gŵyl Delynau Cymru 2019 yn Galeri
yng Nghaernarfon.
Mae Elfair, sy’n hanu o Mynytho
yng Ngwynedd, yn gyn-ddisgybl i’r delynores enwog, Elinor Bennett, yng
Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Galeri, Caernarfon, ac aeth ymlaen i astudio
yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion.
Bu’n aelod o Gerddorfa
Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr am nifer o flynyddoedd gan chwarae mewn
lleoliadau fel Neuadd y Royal Albert.
Ac yn 2008 roedd hi’n un o 60 telynor a chwaraeodd
yn y Tŷ Opera Brenhinol pan ddathlodd y Tywysog Charles ei ben-blwydd yn 60
oed.
Aeth Elfair ymlaen i dreulio dwy flynedd yn byw yn
Bangkok yng Ngwlad Thai, lle bu’n gweithio fel athrawes telyn a thelynores
breswyl yng Nghanolfan Delynau Tamnak Prathom a gefnogir gan Deulu Brenhinol
Gwlad Thai, ac sydd wedi ei gefeillio â Chanolfan Gerdd William Mathias yng
Nghaernarfon.
Meddai: “Rwyf wedi mwynhau
cyngerdd heddiw’n fawr. Roedd hi’n hyfryd gweld rhai preswylwyr yn ymuno a
chanu efo’r delyn. Mae’r gerddoriaeth yn amlwg yn cael effaith fawr ar y
preswylwyr a chawsom lawer o gyswllt llygaid ac roedd un ddynes yn amlwg wrth
ei bodd yn fy arwain wrth i mi chwarae.
Elfair Grug gyda phreswylwyr Vera Morris a Gwyndaf Williams ynghyd â Nia Davies Williams, cerddor preswyl yn Bryn Seiont Newydd. (Llun: Mandy Jones)
“Dim ond cyngerdd oedd hwn ond
byddaf yn dychwelyd i Bryn Seiont Newydd fel rhan o’r prosiect gan weithio efo
preswylwyr fel rhan o weithdy. Yna byddaf yn cyflwyno rhai offerynnau taro ac
yn gweithio’n agos efo’n gilydd.
“Mae’r ystafell gerdd yn Bryn
Seiont Newydd yn adnodd gwych ac mae’n amlwg i mi fod y preswylwyr yn elwa’n
fawr o gael cyfle i wrando ar gerddoriaeth fyw.”
Perfformiodd Elfair ddetholiad
o ganeuon clasurol, caneuon gwerin traddodiadol a chaneuon poblogaidd, yn cynnwys
rhai gan Elton John a’r Beatles.
Dywedodd: “Rwyf bob amser yn mwynhau perfformio
mewn cartrefi gofal; mae’n awyrgylch agos atoch ac yn brofiad gwerth chweil.
Rwy’n gweithio fel telynor llawrydd ac yn perfformio gyda grwpiau siambr neu
gerddorfeydd llawn ond fel cerddor mae’r ymateb a gewch gan lawer o breswylwyr
cartrefi gofal yn anhygoel.
“Yn sicr, mi wnaeth y preswylwyr ymuno efo’r delyn
i gyd-ganu’r alaw werin draddodiadol o’r Alban ‘Draw Dros y Dŵr i Skye’, ac
mae’n amlwg yn gân y maen nhw’n ei chofio’n dda o’r sesiynau y mae Nia Davies
Williams fel cerddor preswyl wedi eu gwneud gyda nhw.”
Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn wych ac rwyf wedi
mwynhau pob munud o gyngerdd heddiw. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd
a chwarae i breswylwyr eto a gweithio efo nhw fel rhan o’r gweithdy.”
Dywedodd Margaret ‘Peggy’
Morris, un o’r preswylwyr a chyn-weithiwr switsfwrdd yng Ngwaith Dur Shotton: “Mae’r
gerddoriaeth yn ymlaciol iawn ac mae’n braf cael cyngherddau fel hyn. Mae’n rhywbeth
ardderchog i edrych ymlaen ato.”
“Rwy’n hoffi bod yma’n fawr. Rwy’n dod o Mancot,
Sir y Fflint ond symudais i Rhoshirwaun. Sali yw fy ffrind gorau ac mae hi’n
dod i’m gweld bob yn ail ddiwrnod.
Ychwanegodd ffrind gorau
Peggy, Sali Williams o Rhoshirwaun, Gwynedd: “Mae Bryn Seiont Newydd yn lle mor
wych ac mae cymaint yn digwydd ar hyd yr adeg. Mae cerddoriaeth yn cyfoethogi
bywydau preswylwyr; mae’n therapi go iawn ac yn dod ag atgofion yn ôl. Rwy’n
gwybod bod Peggy yn mwynhau byw yma’n fawr.”
Dywedodd
Nia Davies Williams, Cerddor Preswyl Parc Pendine: “Bydd y gyfres o gyngherddau
yn mynd i nifer o gartrefi gofal Parc Pendine yn ogystal â Chanolfan Dementia
Hafod Hedd, Pwllheli a Chanolfan Gofal Dydd Bontnewydd. Mae’r rhaglen yn bosibl
diolch i arian gan Celfyddyd a Busnes Cymru.
“Bydd
yn galluogi Canolfan Gerdd William Mathias a Parc Pendine i adeiladu ar eu
perthynas yn dilyn nawdd Pendine i Ŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru 2018.
“Mae’r
delynores broffesiynol Elfair Grug yn un o gyn-fyfyrwyr telynau Canolfan Gerdd
William Mathias, a hi fydd yn cyflwyno’r 15 cyngerdd ac yn ymgysylltu gyda phreswylwyr
mewn cyfres o weithdai hefyd.
“Bydd
myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i fynychu rhai o’r sesiynau cyngerdd i gael blas o
gerddoriaeth mewn lleoliadau cymunedol a chael eu mentora gan Elfair.”
Ychwanegodd:
“Mae’n brosiect ardderchog ac rydym yn gwybod o brofiad blaenorol bod nifer
sylweddol o’r preswylwyr yn mwynhau’r cyngherddau bach hyn. Rydym wedi gallu rhoi’r
prosiect at ei gilydd diolch i Arian CultureStep
Celfyddyd a Busnes Cymru.
“Roedd yn amlwg bod y preswylwyr wrth eu boddau yn gwrando
ar gerddoriaeth, ac ymunodd llawer ohonynt trwy ganu a hyd yn oed chwibanu i
gyfeiliant y delyn. Mae’n hyfryd gweld eu hymateb i gerddoriaeth gyfarwydd a
sut y maen nhw’n ymuno i ganu’r caneuon a’r alawon y maen nhw’n eu hadnabod.”
Dywedodd Sandra Evans, rheolwr Bryn Seiont Newydd:
“Mae’r prosiect hyfryd hwn yn asio’n berffaith efo’n hethos yn Parc Pendine
oherwydd bod y celfyddydau yn gyffredinol a cherddoriaeth yn arbennig yw’r
llinyn arian sy’n rhedeg trwy bopeth a wnawn i gyfoethogi bywydau ein
preswylwyr a’n staff fel ei gilydd.”
Mae canolfan dysgu enwog yn gobeithio i daro tant ag unigolion sy’n caru cerddoriaeth drwy roi’r cyfle iddyn nhw gefnogi astudiaethau telynorion ifanc talentog.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon, a ddarparai hyfforddiant i dros 400 o gerddorion o bob oed, wedi lansio apêl Noddi Tant sydd ag amcan i godi arian drwy wahodd pobl i “brynu” un neu fwy o dannau ar delyn deires traddodiadol Gymreig.
Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at greu tair ysgoloriaeth £1,500 yr un i’w cynnig fel gwobrau i enillwyr y Gystadleuaeth Ieuenctid yn ystod y bedwaredd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru a fydd yn cymryd lle yn Galeri Caernarfon rhwng Ebrill 1-7.
Ac yn ôl cyfarwyddwraig yr ŵyl Elinor Bennett bydd yr ysgoloriaethau yn fodd gwych i helpu meithrin talent ifanc.
Dywedodd: “Mae’r Gystadleuaeth Ieuenctid yng Ngŵyl Delynau Ryngwladol Cymru ar gyfer telynorion ifanc oed 19 neu iau, a’r gwobrau ydy tair ysgoloriaeth gyfartal o £1,500 a fydd yn galluogi’r enillwyr i dalu am gyfres o wersi gan diwtor arbenigol o’u dewis nhw.
“Mae cost gwersi cerdd arbenigol yn medru bod yn ormod i nifer o deuluoedd a gall yr ysgoloriaethau hyn wneud gwahaniaeth sylweddol o ran datblygu potensial y telynorion ifanc. Fel canllaw, gall cost gwersi arbenigol amrywio rhwng £40 a £100; arian y bydd nifer o deuluoedd yn ei chael yn anodd canfod.
Yn y llun mae trefnydd yr ŵyl, Catrin Morris a chyfarwyddwraig yr ŵyl, Elinor Bennett.
“Fe ddaeth Canolfan Gerdd William Mathias, sydd ar hyn o bryd yn cynnig gwersi o’r safon uchaf ar amrywiaeth eang o offerynnau a’r llais yn ei chanolfannau yn Galeri Caernarfon ynghyd â Dinbych a Rhuthun, i fyny a’r apêl Noddi Tant er mwyn rhoi’r cychwyn gorau i yrfaoedd y cerddorion ifanc drwy gynnig tair ysgoloriaeth werthfawr.”
Ychwanegodd Elinor: “Mae’r ceisiadau ar gyfer Cystadleuaeth Ieuenctid yr ŵyl yn mynd yn dda iawn ar hyn o bryd ac rydym ni’n disgwyl i ddenu hyd at 25 o gerddorion ifanc. Er y bydd sawl o Gymru a disgyblion o Ganolfan Gerdd William Mathias hefyd yn cystadlu, bydd eraill yn dod mor bell i ffwrdd a’r UDA a Rwsia yn arbennig i gymryd rhan.
“Bydd cylch cyntaf y Gystadleuaeth Ieuenctid yn cael ei gynnal o 9yb ar drydydd diwrnod yr ŵyl, Dydd Mawrth Ebrill y 3ydd, gyda’r cylch terfynol am 3yp ar y dydd Mercher.
“Bydd yn arddangos y gorau o dalent gerddorol ac yn gyfle gwych i godi proffil chwarae’r delyn. Bydd hefyd yn dod ag artistiaid rhyngwladol o’r radd flaenaf i Galeri Caernarfon fel y bydd pobl yn medru profi’r gorau o gerddoriaeth y delyn yn lleol.
“Bydd y delyn yn dod â phobl at ei gilydd drwy bŵer cerddoriaeth. Yn ystod gwyliau’r gorffennol mae nifer o ymgeiswyr y Gystadleuaeth Iau wedi gwneud ffrindiau ac wedi cadw mewn cysylltiad.”
Ychwanegodd Elinor: “Yn ystod y dyddiau sy’n arwain at yr ŵyl bydd copi o delyn deires 18fed ganrif, yn cael ei arddangos yn Galeri.
“Bydd label efo enw’r noddwr yn cael ei glymu at un o’r tannau pan fydd rhodd yn cael ei dderbyn gan unigolyn caredig ag hael.
“Rydym wedi awgrymu rhodd o £50 ond rydym ni’n ddiolchgar ar gyfer unrhyw sŵn arall, mawr neu fach, y byddwn i’n ei dderbyn ar gyfer achos mor dda.”
Mae Gwenan Gibbard, sydd wedi bod yn diwtor telyn yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernafon ers dros 10 mlynedd, yn credu yn gryf yn yr apêl Noddi Tant.
Dywedodd: “Mae hi wastad yn sialens i ganfod ffyrdd newydd o godi arian tuag at astudio cerddoriaeth ac rwy’n meddwl bod hyn yn syniad gwych.
Bydd y tair ysgoloriaeth y bydd y rhoddion yn helpu i’w hariannu yn ffordd berffaith i helpu meithrin telynorion gorau’r dyfodol ac mae’r apêl yn llawn haeddu i ennill gymaint o gefnogaeth a phosib.”
Mae mwy na 100 o delynorion yn dod i’r ŵyl a bydd y gyngerdd agoriadol yn gweld y premiere o farddoniaeth newydd dan y teitl Osian, gan y bardd cadeiriol Mererid Hopwood, sy’n talu teyrnged i fywyd a gwaith y telynor byd-enwog Dr Osian Ellis CBE, sydd wedi newydd ail-gydio mewn chwarae’r delyn wrth iddo nesáu at ei benblwydd yn 90 oed ar Chwefror yr 8fed.
Yn anterth ei yrfa bu Dr Ellis, sydd yn llywydd yr Ŵyl Delynau, yn cydweithio â’r cyfansoddwr Prydeinig blaenllaw Benjamin Britten ac yn chwarae ar gyfres gomedi radio, The Goon Show.
Bydd yr ŵyl yn cloi â chyngerdd sydd eisoes wedi gwerthu allan gan Syr Bryn Terfel, wedi ei gyfeilio gan ei bartner a chyn-delynores brenhinol Hannah Stone, yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor ar Ebrill yr 20fed.