Gŵyl yn mynd yn rhithiol i dalu gwrogaeth i’r telynor byd-enwog Osian Ellis

Gŵyl yn mynd yn rhithiol i dalu gwrogaeth i’r telynor byd-enwog Osian Ellis

Bydd gŵyl gerddoriaeth nodedig sy’n mynd yn rhithiol am y tro cyntaf yn ei hanes yn talu gwrogaeth i’r telynor byd-enwog Osian Ellis a fu farw yn gynharach eleni.

Bu’n rhaid canslo Gŵyl Delynau Cymru 2020 ar y funud olaf yn dilyn y pandemig Coronafeirws ond eleni mae’r trefnwyr yn benderfynol y bydd y sioe yn mynd yn ei blaen.

Mewn ymdrech arwrol o ddyfeisgarwch a gwybodaeth dechnegol yn eu pencadlys yng Nghaernarfon, llwyddodd Canolfan Gerdd William Mathias ffordd i symud rhaglen gyfan digwyddiadau’r ŵyl ar-lein.

Roeddent yn fwy penderfynol nag erioed y dylai gŵyl 2021 ar Fawrth 30 a 31 fynd yn ei blaen oherwydd ei bod yn cael ei llwyfannu i gofio am Osian Ellis, a fu farw ym mis Ionawr eleni, yn 92 oed.

Bydd yr ŵyl hefyd yn talu teyrnged i ddwy delynores enwog arall a fu farw yn ystod y 12 mis diwethaf, sef Ann Griffiths a Mair Jones.

Fel rheol mi fyddai’r digwyddiad yn cael ei lwyfannu’n fyw yn Galeri, Caernarfon, ond mae’r pandemig presennol a rheolau’r cyfnod clo yn gwneud hyn yn amhosibl.

Y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn cyrraedd cynulleidfa hyd yn oed yn ehangach eleni gyda thelynorion dawnus o Hong Kong, Patagonia ac Iwerddon yn ysu i gymryd rhan.

Bydd cyngerdd yr ŵyl yn cynnwys perfformiad o gyfansoddiad olaf Osian Ellis a ysgrifennwyd yn 2019, Lachrymae (Dagrau), gan ei gyfarwyddwr, Elinor Bennett.

Bydd ei chyn-ddisgybl yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, Elen Hydref, yn ymuno â hi i berfformio “Clymau Cytgerdd” ar gyfer dwy delyn gan Osian Ellis. Bydd Elen Hydref hefyd yn chwarae ‘Suite for Harp’ gan Benjamin Britten a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Osian Ellis.

Bydd telynores Gymreig arall sydd wedi ennill bri rhyngwladol, Sioned Williams, yn rhoi perfformiad o eiriau a cherddoriaeth fydd yn myfyrio ar yr ysbrydoliaeth a gafodd gan diwtoriaid gan gynnwys Osian, Mair Jones ac Ann Griffiths.

Mae’r wyl hefyd yn cynnwys recordiad o ddarlith a draddodwyd gan Osian Ellis yng Ngŵyl Delynau Cymru 2017 am y cyfnod a dreuliodd yn cydweithio â Benjamin Britten, a bydd sesiynau arbennig hefyd lle bydd ffrindiau, cydweithwyr a chyd-gerddorion yn talu teyrnged i Osian

Dywedodd Meinir Llwyd Roberts, cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias: “Canlyniad y symud ar-lein yw ein bod yn agor yr ŵyl i gyfranogwyr o bob cwr o’r byd gan alluogi telynorion o Gymru a gwledydd eraill i ymuno â’r sesiynau tiwtora ar-lein a fydd yn rhan allweddol o’r rhaglen.

“Rydyn ni eisoes wedi cael cais i gymryd  rhan gan delynores yn Hong Kong ac mae yna ddisgybl ifanc arall o Gymru ym Mhatagonia, yn yr Ariannin, yn hynod awyddus i gymryd rhan hefyd.”

“Mae’r ŵyl yn cynnig cyfle i ddechreuwyr a thelynorion mwy datblygedig o bob oed ddysgu gan y goreuon”

Gallant wneud cais i gymryd rhan mewn gweithdai grŵp 90 munud a addysgir gan diwtoriaid proffesiynol arbennig a gafodd eu dysgu gan Osian Ellis ar ryw adeg yn eu gyrfa gerddorol, sef Elinor Bennett, ei chyn-ddisgybl Elen Hydref ac Ann Jones.

Bydd y tiwtor telyn, Ann Jones, a oedd yn un o ddisgyblion Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn gyn-brif delynores gyda Cherddorfa Radio RTE yn Nulyn, yn goresgyn cyfyngiadau teithio’r cyfnod clo trwy roi gwersi ar-lein yn uniongyrchol o’i chartref yn Iwerddon.

Roedd Elinor Bennett yn arbennig o awyddus i ŵyl 2021 fynd yn ei blaen fel y gallai hi ac eraill dalu eu teyrngedau personol i Osian Ellis a oedd yn Llywydd Anrhydeddus yr ŵyl.

Roedd yn gerddor hynod ddawnus o oed ifanc a thyfodd i fyny i fod yn delynor, athro, cyfansoddwr a threfnydd rhyngwladol rhagorol. Roedd yn brif delynor Cerddorfa Symffoni Llundain a chafodd yr anrhydedd o gael y cyfansoddwr clasurol Benjamin Britten yn ysgrifennu gweithiau yn arbennig ar ei gyfer.

Mae cenedlaethau o delynorion a gafodd eu hysbrydoli ganddo wedi mynd ymlaen i ddysgu myfyrwyr ifanc eu hunain.

Roedd Elinor yn un o’i ddisgyblion yn yr Academi Gerdd Frenhinol, ac ar ol gradio o’r Academi aeth ymlaen i fod yn unawdydd telyn amlwg, yn hyfforddwr meistr a sylfaenydd Coleg Telyn Cymru.

Mae hi wedi perfformio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Siambr Lloegr, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa’r Philharmonia, yn ogystal â rhoi datganiadau ar y radio a’r teledu.

Meddai: “Rwy’n gyffrous iawn bod yr ŵyl yn gallu cael ei llwyfannu a’r gobaith o allu cyrraedd cynulleidfa fyd-eang drwy’r dechnoleg ar-lein sy’n cael ei defnyddio eleni. Mae’r cymorth technegol a gefais gan staff CGWM wedi bod yn amhrisiadwy. Maen nhw wedi goresgyn pob math o rwystrau i wneud i hyn ddigwydd.”

Bydd Elinor yn cynnal dosbarth meistr ar-lein a bydd cyfle hefyd i delynorion o raddau 1-7 ymuno â dosbarthiadau Zoom ar-lein mewn grwpiau bach gydag un o diwtoriaid y delyn, Ann Jones, Elen Hydref ac Elinor ei hun.

Meddai: “Er mwyn gwneud pethau’n haws eleni rydym yn gofyn i gyfranogwyr y gweithdai anfon recordiadau o’r darnau y maent yn eu dysgu atom fel y gall y tiwtoriaid wrando ar eu perfformiadau ymlaen llaw. Bydd hyn yn sicrhau bod pob telynor yn cael y budd mwyaf o’r dosbarthiadau a bydd hefyd yn ddarpariaeth wrth gefn rhagorol, rhag ofn y ceir unrhyw broblemau cysylltu neu anawsterau eraill ar y diwrnod.”

Athrawon y cwrs : Diweddariad

Athrawon y cwrs : Diweddariad

Mae’n ddrwg iawn gennym na fydd Ann Jones yn gallu cymeryd rhan yng Ngwyl Delynau Cymru eleni oherwydd amgylchiadau personol trist. Yn ddiweddar iawn bu farw ei gŵr.  Gyrrwn ein cydymdeimlad dwysaf ati hi a’r teulu.  

Lansio ein Gŵyl Delynau “Rhithiol” cyntaf

Lansio ein Gŵyl Delynau “Rhithiol” cyntaf

Neges gan Elinor Bennett, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl:

Cofio – talu teyrnged – a throsglwyddo’r awen fydd prif themâu Gŵyl Delynau Cymru  eleni.

Tristwch mawr oedd clywed ym mis Ionawr am farwolaeth Osian Ellis, Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl hon,  un o’r telynorion mwyaf a welodd Cymru erioed. Hefyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu farw Ann Griffiths a Mair Jones, dwy delynores eithriadol a fu’r dysgu cenedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru i ganu’r delyn.  Mae’r Ŵyl yn gyfle inni gydnabod  ein dyled i’r tri thelynor a diolchwn am eu cyfraniadau anhygoel i ddiwylliant Cymru ac i gerddoriaeth y delyn yn rhyngwladol.

Yn ystod wythnos y Pasg, arferai dwsinau o delynorion,  yn ifanc a hŷn, ddod gyda’u telynau i  Gaernarfon i  gymeryd rhan yn yr Ŵyl Delynau yn Galeri, i gael gwersi, gwrando ar eraill, cymdeithasu a dysgu gyda’i gilydd.  Eleni, er gwaethaf  y Covid, byddwn yn cadw’r fflam  yn fyw trwy drosglwyddo’r  Ŵyl i fywyd newydd,  rhithiol ar y we.

  Bydd athrawon telyn blaenllaw yn rhoi gwersi trwy gyfrwng Zoom a chynhelir llawer o  ddigwyddiadau eraill i gofio’n Llywydd, Osian Ellis, gan gynnwys y perfformiad cyntaf o’i waith newydd “Dagrau / Lachrymae” a gyhoeddwyd y llynedd .

Trosglwyddo’r  awen o gewri’r  gorffennol i genedlaeth newydd yw amcan yr Ŵyl.  Ynghanol ein trybini, mae’r delyn a’i cherddoriaeth yn codi’r galon ac yn cyfoethogi  bywydau.   

Estynnwn groeso brwd  i delynorion a chyfeillion y delyn  o bob rhan o’r byd i ddod atom yn rhithiol i Gymru. Darllenwch am yr alwy a  chliciwch ar y botwm  “Cofrestru”.   Felly,  ewch ati ar eich hunion!!!         

Osian Ellis (1928-2021)

Osian Ellis (1928-2021)

Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru.

Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn Ninbych, yn fab i’r Parch T.G. Ellis, gweinidog gyda’r Wesleaid, a’i  athrawes gyntaf oedd  Alwena Roberts (Telynores Iâl). Fel plentyn, bu’n canu penillion a chaneuon gwerin mewn cyngherddau yng Nghymru gyda’i fam ac aelodau eraill o’i deulu.

Yn dilyn cyfnod yn astudio’r delyn gyda Gwendolen Mason yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, olynodd ei athrawes fel Athro’r delyn yn y sefydliad hwnnw 0 1959 i 1989.  Yn gynnar yn ei yrfa, ymddangosodd mewn rhaglenni teledu poblogaidd ar y BBC yng Nghymru,  a rhoddodd nifer o berfformiadau  o farddoniaeth a cherddoriaeth  gydag actorion megis Dame Peggy Aschcroft, Dame Sybil Thorndyke, Cecil Day-Lewis, Hugh Griffith a Richard Burton.

Fel telynor gorau ac amlycaf ei gyfnod, fel athro telyn, cyfansoddwr, trefnydd, canwr penillion ac ysgolhaig, cyfrannodd yn helaeth i fyd cerddoriaeth werin y genedl yn ogystal â cherddoriaeth glasurol Ewropeaidd ei ddydd. Trwy gyfrwng recordiadau gyda chwmni Sain, Philips, Lyrita, Meridian a Decca, llwyddodd i ddwyn sylw i repertoire amrywiol y delyn, gan gynnwys cyfansoddiadau y 18fed, y 19eg a’r 20fed ganrif o Gymru.  Teithiodd yn helaeth yn ystod ei yrfa, a hyrwyddodd y delyn a cherddoriaeth ei fam-wlad ym mhellafoedd byd.

Osian Ellis oedd Prif Delynor y London Symphony Orchestra o 1961 ymlaen, a gweithiodd gydag arweinyddion mawr y cyfnod megis Pierre Monteux, Pierre Boulez, Colin Davis, Antal Dorati, André Previn a Claudio Abbado.  Bu’n unawdydd cyson gyda’r gerddorfa honno ac, fel telynor gwreiddiol y grŵp siambr Melos Ensemble, enillodd ei recordiad  o’r  Introduction et Allegro  gan Ravel y Grand Prix du Disque ym Mharis yn 1962.

O ddechrau’r 60’au bu cydweithio dygn ac arwyddocaol rhyngddo ef a’r cyfansoddwr mawr Seisnig,  Benjamin Britten, a chwaraeodd Osian mewn llawer perfformiad a recordiad yng Ngŵyl Britten yn Aldeburgh. Bu’r  cyswllt a’r cydweithio parod hwn yn gyfrwng i’r delyn ennill ei lle yng ngweithiau  Britten – gweithiau fel y War Requiem (1962),  Midsummer Night’s Dream, Curlew River (1964), The Prodigal Son (1968) a’r gwaith pwysig i’r delyn – Suite for Harp(1969).

O 1973 – 1980 wedi salwch Benjamin Britten, cynhaliodd Osian Ellis lawer o gyngherddau gyda Peter Pears, ac ysgrifennodd sawl gwaith newydd ar eu cyfer. Yn ddiweddarach, ffurfiodd ddeuawd gyda’i fab, y diweddar  Tomos Ellis (tenor), gan roi llawer perfformiad yng Nghymru a thramor.

Anogodd Osian Ellis nifer o gyfansoddwyr cyfoes o Gymru a thu hwnt i lunio gweithiau newydd ar gyfer y delyn – gan gynnwys William Mathias, Alun Hoddinott, Rhian Samuel, David Wynne, Malcolm Arnold, Robin Holloway, Elizabeth Machonchy, William Alwyn, Carlo Menotti a Jorgen Jersild.  

Fel ysgolhaig, ymddangosodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfrolau ac erthyglau o sylwedd ar hanes y delyn yng Nghymru, Llawysgrif Robert ap Huw, John Parry ‘Ddall’ (Rhiwabon) a Cherdd Dant. Cyhoeddwyd ei The Story of the Harp in Wales gan Wasg Prifysgol Cymru a chymerodd ran mewn myrdd o raglenni teledu a radio yng Nghymru a Llundain.

Bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru. Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a’r CBE gan y Frenhines. Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.

Yn dilyn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed, deffrodd yr awen, a chyfansoddodd ddau waith newydd :   ‘Cylch o Alawon Gwerin Cymru’  (ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone) a’i waith i delyn ‘Lachrymae’.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i fab, Richard Llywarch, ei ferch-yng-nghyfraith Glynis, a’i wyrion, David a Katie,  yn eu profedigaeth.

Datganiad parthed Gŵyl Delynau Cymru 2020

Datganiad parthed Gŵyl Delynau Cymru 2020

Gyda chalon drom yr ydym yn rhoi gwybod i chi bod rhaid gohirio Gŵyl Delynau Cymru oedd i fod i’w chynnal o’r 8-9 Ebrill oherwydd y sefyllfa gyda’r feirws Covid-19. Fodd bynnag rydym yn benderfynol mai ail-drefnu ac nid canslo fyddwn i a byddwn mewn cysylltiad efo chi yn fuan iawn efo manylion pellach gan obeithio y byddwch yn awyddus i ymuno efo ni ar y dyddiad newydd ymhellach ymlaen yn y flwyddyn. Os na fyddwch yn gallu, yna wrthgwrs byddwn yn trefnu ad-daliad i’r rhai sydd wedi cofrestru neu brynu tocynnau. Ond gofynnwn i chi fod yn amyneddgar am y dyddiau nesaf gan ein bod yn gorfod gohirio / addasu ein rhaglen waith gyfan ar hyn o bryd ac addasu i weithio fel staff o’n cartrefi. Yn y cyfamser daliwch i ymarfer a cadwch lygad ar dudalen Facebook yr Ŵyl / Canolfan Gerdd William Mathias lle byddwn yn postio fideos ag ati yn yr wythnosau nesaf i godi calon pawb.

Cofion gorau,

Elinor, Meinir a’r tîm

Let’s stay in touch!

Let’s stay in touch!

We’d love to keep you up-to-date about the latest news and upcoming events at Canolfan Gerdd William Mathias (organisers of the Wales Harp Festival).

I'd like to hear about
Language

You can change your mind at any time by clicking the unsubscribe link in the footer of any email you receive from us, or by contacting us at post@cgwm.org.uk. We will treat your information with respect. For more information about our privacy practices please see our Privacy Policy. By clicking below, you agree that we may process your information in accordance with these terms.

We use MailChimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to MailChimp for processing. Learn more about MailChimp's privacy practices here.

You have Successfully Subscribed!

Aros mewn cyswllt!

Aros mewn cyswllt!

Hoffech chi dderbyn y wybodaeth diweddaraf am newyddion a digwyddiadau Canolfan Gerdd William Mathias, trefnwyr Gŵyl Delynau Cymru?

Fe hoffwn glywed am
Iaith

Mae'n bosib i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy glicio y ddolen dad-danysgrifo ar waelod unrhyw ebost rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, neu drwy gysylltu â ni ar post@cgwm.org.uk. Rydym ni'n trin eich gwybodaeth â pharch. Am ragor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd gwelwch ein Polisi Preifatrwydd. Drwy glicio isod, rydych chi’n cytuno i ni brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r termau hyn.

Rydym ni'n defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp er mwyn ei brosesu. Gallwch ddysgu mwy am ymarferion preifatrwydd MailChimp yma.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus!