Gŵyl Delynau Cymru 2022
Dathlu Talentau Cymru
12 + 13 Ebrill 2022
Cyngherddau, Dosbarthiadau, Gweithdai
Ybrydoli, Adnewyddu, Gwella!
Cyfarwyddwraig Artistig: Elinor Bennett


Neges Elinor Bennett, Cyfarwyddwr Artistig:
Ysbrydoli! Adnewyddu! Gwella!
Gwella, adnewyddu ac ail-afael mewn cerddoriaeth a thelyn fydd bwriad Gŵyl Delynau Cymru a fydd yn gyfle i ddod â thelynorion at ei gilydd yn Galeri Caernarfon ar Ebrill 12 a 13, 2022. Edrychaf ymlaen at gael fy ysbrydoli gan delynorion eraill, yn ifanc ac yn hŷn, i greu cerddoriaeth hwyliog a fydd yn codi’r galon ar ôl gofid y Cofid. Gadewch inni edrych i’r dyfodol gyda’n gilydd – at amser gwell trwy hybu’r delyn yng Nghymru a chynnal yr Ŵyl a ohiriwyd ym mis Ebrill 2020 oherwydd y pandemig.
Edrychaf ymlaen yn fawr at gael croesawu amryw o delynorion o Iwerddon i ganu eu telynau gyda ni i gadarnhau’r cwlwm sydd yn barod yn bodoli rhwng telynorion ein dwy wlad. Cawn hefyd y fraint o gynnal Cystadleuaeth Ymddiriedolaeth Nansi Richards i delynorion ifanc Cymru. Yn bwysig iawn, bydd athrawon telyn blaengar a brwdfrydig efo ni i hyfforddi aelodau ifanc a hŷn i ganu’r delyn.
Dewch atom i gael ysbrydoliaeth a hwyl ar y tannau!

Cyngerdd yr Ŵyl
13 Ebrill 2022, 7:30pm, Theatr Galeri Caernarfon
Gwenllian Llŷr • Ben Creighton-Griffiths & the Transatlantic Hot Club
Côr Telyn Gogledd Cymru • Veronika Lemishenko
Creu diddordeb newydd yn offeryn cenedlaethol Cymru yw ein bwriad, ac yng Nghyngerdd Gŵyl 2022 bydd y delynores ifanc ddawnus, Gwenllian Llŷr, yn rhoi perfformiad o gerddoriaeth, yn cynnwys darn newydd gan Mared Emlyn, a’i threfniant ei hun o un o emynau mwyaf poblogaidd Cymru. Y telynor jazz gwych o Gaerdydd, Benjamin Creighton-Griffiths fydd yn cadw cwmni i Gwenllian gyda’i fand, y Transatlantic Hot Club. Bydd y ddau’n rhoi gwersi ar jazz a byrfyfyrio mewn sesiynnau yn ystod yr Ŵyl.
Bydd perfformiad wedi ei recordio a chyfweliad byw dros fideo gan y delynores wych o Wcráin, Veronika Lemishenko yn ystod y cyngerdd. Enillodd Veronika wobrau yn ein Gŵyl Delynau Ryngwladol yn 2014 a 2018 a hi yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Glowing Harp yn Wcráin oedd i fod i gael ei chynnal yr un pryd â’n Gŵyl ni. Bydd Veronika yn perfformio gweithiau telyn gan dri chyfansoddwr o Wcráin.
Tiwtoriaid y Cwrs

Astudiodd ELINOR BENNETT gydag Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ar ôl graddio yn y Gyfraith, a bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain yn gynnar yn ei gyrfa. Recordiodd 15 albwm yn amrywio o gerddoriaeth telyn yr 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru. Ysgrifennodd sawl cyfansoddwr gerddoriaeth i Elinor, a cyfarwyddodd astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, a Doethuriaeth gan Brifysgol Cymru. Elinor yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai.

Mae DYLAN CERNYW yn delynor, perfformiwr ac athro sy’n gweithio yn y Gogledd. Ac wedi perfformio yn Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Canada, Prague, Tsieina a’rSwistir. Mae Dylan wedi gwneud ymddangosiadau gwadd yng Ngwyl o Fil o leisiau yn Llundain ac mae wedi perfformio gydag artistiaid megis Bryn Terfel, Katherine Jenkins, JohnOwen Jones, Sioned Terry, Shân Cothi, Rhys Meirion, Rhydian Roberts a Rebecca Evans. Mae Dylan wedi cynhyrchu sawl albwm, mae 3 ohonynt yn unigol, 4 albwm Piantel ac 3 albwm gyda delynores Cymru Gwenan Gibbard ar gyfer Sunrise Music o Hong Kong. Ar wahân i’w albwm ei hun, mae Dylan wedi ymddangos ar nifer fawr o gryno ddisgiau fel cyfeilydd. Mae Dylan yn un hanner y “Piantel” sydd wedi bod yn perfformio gyda’i gilydd ers 13 mlynedd, ac yn perfformio gyda Two Blondes and a Harp.

Cwblhaodd MARED EMLYN ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith ‘Perlau’ yn y Glaw ar gyfer y delyn sydd erbyn hyn yn cael ei berfformio yn aml mewn cystadlaethau telyn. Mae wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac yn ddiweddar, concerto telyn ar gyfer Gŵyl Biwmares.

Mae GWENLLIAN LLŶR yn prysur ennill cydnabyddiaeth rhyngwladol am ei pherfformiadau carismatig ac egnïol. Yng Ngorffennaf 2013, enillodd Gwenllian wobr yng Nghystadleuaeth Rhyngwladol UDA yn Bloomington, gan gael ei chanmol am ei dawn cerddorola’i gallu i gysylltu â’r gynulleidfa. Mae hi hefyd wedi ennill nifer o wobrau yn fwy lleol, gan gynnwys y Rhuban Las yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 a Gwobr Len Lickorish i Gerddor Addawol yng Nghystadleuaeth ROSL 2018, yn ogystal a chael ei dewis fel Artist gyda City Music Foundation yn 2017.Cafodd Gwenllian y bleser o astudio gydag athrawon gwych mewn rhai o’r colegau gorau yn y bydd, gan ennill graddau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ysgol Juilliard ac yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Yn ogystal â nifer o ysgoloriaethau a chefnogaeth ariannol, enillodd Gwenllian nifer o anrhydeddau eraill yn ystod ei hastudiaethau, gan gynnwys Gwobr William Schuman am gyflawniad ac arwainyddiaeth rhagorol yng ngherddoriaeth gan Ysgol Juilliard. Cymerodd hi fantais lawn o’r cyfle i weithio gyda nifer o artistiaid gwahanol yn ystod ei hastudiaethau, gan ddatblygu ei dealltwriaeth a’i hoffder o gerddoriaeth siambr ac i ymestyn y repertŵar telyn.
Amserlen y Cwrs
Dydd Mawrth, 12 Ebrill
9.00am-9.30am: Cyrraedd a chofrestru (holl aelodau dros 18 oed)
9.20am-9.40am: Cyrraedd a chofrestru (holl aelodau dan 18 oed)
10.00am-1.00pm: Dosbarthiadau a Gweithdai
1.00pm-2.00pm: Cinio
2.00pm-3.30pm: Cyngerdd gan aelodau’r cwrs
4.00pm-5.00pm: 1. Gweithdy Cyfansoddi: Gwenllian Llŷr a Mared Emlyn
4.00pm-5.00pm: 2. Dosbarth i delynorion iau
5.30pm: Cyngerdd Caffi: Cwlwm Celtaidd Cymru ac Iwerddon
6.00pm: Cystadleuaeth Ymddiriedolaeth Nansi Richards (Stiwdio 2)
Dydd Mercher, 13 Ebrill
10.00am-1.00pm: Dosbarthiadau
1.00pm-2.00pm: Cinio
2.00pm-3.00pm: Gweithdy Jazz gyda Ben Creighton-Griffiths
5.00pm: Galerïau Galeri
6:45pm: Cyngerdd Caffi gyda Dylan Cernyw
7.30pm: Cyngerdd yr Ŵyl
Rhaglen Gŵyl 2022
Ferswin PDF o raglen yr Ŵyl yn 2022.
Diolch i’n Noddwyr








Caiff Gŵyl Delynau Cymru ei threfnu gan Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu hyfforddiant a phrofiadau cerddorol o safon uchel i bobl o bob oed yn ei chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun a thrwy raglen eang o brosiectau addysgol a chymunedol.