Mae un o’r telynorion mwyaf blaenllaw yn y byd wedi estyn llaw i ŵyl ryngwladol ar ôl i Catrin Finch orfod tynnu allan gan ei bod yn brwydro canser y fron.

Yn ôl Isabelle Moretti, bydd hi’n cyflwyno ei pherfformiad yn ystod pedwaredd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yng Nghaernarfon i’r gyn-delynores frenhinol a ddatgelodd yn ddiweddar ei bod yn derbyn triniaeth ar ôl diagnosis o ganser y fron gradd tri.

Mae Isabelle yn darparu hyfforddiant ar y delyn yng Nghonservatoire Cerddoriaeth a Dawns Paris ac yn Athro Ymweliadol y Delyn yn yr Academi Frenhinol Cerddoriaeth yn Llundain.

Talodd deyrnged i Catrin, a aned yng Ngheredigion a’r person cyntaf i dderbyn swydd fel Telynores Frenhinol ers 1873, a’i disgrifio hi fel seren ddisglair iawn.

Dywedodd Moretti: “Yn y cyngerdd yn Galeri Caernarfon ar Ebrill 5ed byddaf yn meddwl yn unig am Catrin a dwi’n siŵr y gwnaiff y gerddoriaeth ei chyrraedd hi lle bynnag y bydd. Fe wnes i gyfarfod Catrin am y tro cyntaf pan enillodd gystadleuaeth yn Ffrainc pan oedd yn eneth ifanc.

“Rwy’n ei hoffi yn fawr, mae Catrin yn artist didwyll ac ystyriol. Mae hi’n un o enillwyr bywyd a ‘does gennyf ddim amheuaeth y gwneith hi oresgyn yr afiechyd. Rwy’n caru’r rhyddid mae hi’n dod i’w cherddoriaeth ac i’r delyn fel offeryn. Mae hi’n anrheg i gerddoriaeth ac rydym ni angen mwy fel hi.

“Mae’n drist nad yw Catrin yn medru perfformio ond fe fyddai’n gwneud fy ngorau i roi perfformiad y byddai Catrin yn ei fwynhau ac yn ei gymeradwyo.

Catrin Finch

Catrin Finch

“Mae’r delyn yn offeryn mor bwysig yng Nghymru; mae’n perthyn yno ac yn ymuno â’r gerddoriaeth sy’n y mynyddoedd, coedwigoedd ac afonydd.”

Bydd y delynores benigamp yn chwarae telyn wedi ei wneud gan y gwneuthurwyr telynau Ffrengig, Camac, sy’n gwerthu offerynnau o ansawdd uchel ar draws y byd. Mae Isabelle yn briod â Jakez François, Llywydd y cwmni.

Dywedodd: “Rwy’n lwcus iawn, ac fel pob telynores, mae fy offeryn yn estyniad ohonof i, ac yn rhan ohonof.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at berfformio yng Nghaernarfon er y byddai wedi bod yn brafiach dan amgylchiadau gwahanol. Mae’n fraint cael gwahoddiad i berfformio yng Nghymru, gwlad sydd â chyswllt mor agos â’r delyn, ar achlysur penblwydd Osian Ellis yn 90 oed. Rwy’n gwybod fod cynulleidfaoedd yng Nghymru yn gwerthfawrogi cerddoriaeth yn fawr ac wrth gwrs, hoffwn roi perfformiad a fyddai wrth fodd Catrin.”

Mae Cyfarwyddwraig yr Ŵyl, Elinor Bennett wrth ei bodd yn croesawu Isabelle i ganu’r delyn yng Nghymru.

Dywedodd: “Yn amlwg rydym ni’n drist iawn na fydd Catrin yn medru bod gyda ni eleni ac rydym ni’n dymuno’r gorau a gwellhad buan iddi hi yn dilyn ei diagnosis.

“Mae Isabelle yn delynores wych. Mae’n chwarae â chymaint o gynhesrwydd a sensitifrwydd ac rydym yn ffodus dros ben ei bod yn gallu cymeryd lle Catrin.

“Bydd y Cyngerdd Cerddoriaeth Siambr ar Ebrill y 5ed yn un i’w gofio ac yn cynnwys rhai o’r darnau mwyaf hyfryd a gyfansoddwyd erioed ar gyfer y delyn.

“Mae’r recordiad a wnaeth Osian Ellis o gerddoriaeth Ravel Introduction et Allegro yn 1963 yn dal i dderbyn clod gan feirniaid cerdd rhyngwladol.

“Mae’r Danses Sacrée et Profane gan Debussy yn dynodi canmlwyddiant marwolaeth y cyfansoddwr mawr a bydd unawdau gan Fauré hefyd.

“Bydd chwe cherddor o Ensemble Cymru, sydd wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru, yn perfformio gyda Isabelle Moretti yn y gyngerdd.

“Rwyf wrth fy modd y bydd telynores fwyaf blaenllaw Ffrainc yn dod i Gymru i berfformio rhaglen o gerddoriaeth Ffrengig yng Nghaernarfon gyag Ensemble o Gymru!!

Bydd uchafbwyntiau eraill yn yr Ŵyl sy’n dathlu bywyd a gwaith y telynor byd-enwog, Dr Osian Ellis, a’i benblwydd yn 90 oed.

Ynghyd â bod yn Athro’r Delyn yn yr Academi Frenhinol Cerddoriaeth, am sawl blwyddyn, Dr Ellis oedd prif delynor Cerddorfa Symffoni Llundain ac, fel arwydd o barch aruthrol tuag ato, ysgrifennodd y cyfansoddwr Benjamin Britten ei Gyfres Telyn yn arbennig iddo ef.

Dr Osian Ellis

Datgelwyd hefyd fod Osian Ellis wedi recordio caneuon yn Stiwdio Sain yn ddiweddar – ac yntau’n 90 oed, ac ysgrifennodd gyflwyniad i gasgliad o ddarnau ar CD sy’n cwmpasu dros 60 mlynedd o berfformiadau.

Dywedodd Elinor, oedd yn un o’i ddisgyblion: “Mae gwaith Osian wedi dylanwadu cenedlaethau o delynorion ac wedi ysbrydoli nifer o gyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt. Ef yw Brenin y Delyn!”

Bydd mwy na 100 o delynorion o wledydd mor bell â Siapan, America, Rwsia a Gwlad Tai yn dod i’r Ŵyl a gynhelir gan fwyaf yn Galeri Caernarfon o Sul y Pasg, ar Ebrill y 1af, i ddydd Sadwrn, Ebrill y 7fed.

Digwyddiad mawr arall yn ystod yr Ŵyl fydd y premiere o ddarn newydd o gerddoriaeth i gofio’r penderfyniad dadleuol i foddi pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn uwchben Bala yn 1965 er mwyn creu cronfa i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl a Chilgwri.

Fe gomisiynwyd y darn gan y delynores rengwladol, Sioned Williams. Ei thaid Huw T Edwards oedd un o arweinyddion yr ymgyrch yn erbyn boddi Capel Celyn.

Bydd hi’n chwarae’r darn, a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Michael Stimpson, yn Eglwys y Santes Fair yng Nghaernarfon ar Llun y Pasg, Ebrill yr 2il.

Let’s stay in touch!

Let’s stay in touch!

We’d love to keep you up-to-date about the latest news and upcoming events at Canolfan Gerdd William Mathias (organisers of the Wales Harp Festival).

I'd like to hear about
Language

You can change your mind at any time by clicking the unsubscribe link in the footer of any email you receive from us, or by contacting us at post@cgwm.org.uk. We will treat your information with respect. For more information about our privacy practices please see our Privacy Policy. By clicking below, you agree that we may process your information in accordance with these terms.

We use MailChimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to MailChimp for processing. Learn more about MailChimp's privacy practices here.

You have Successfully Subscribed!

Aros mewn cyswllt!

Aros mewn cyswllt!

Hoffech chi dderbyn y wybodaeth diweddaraf am newyddion a digwyddiadau Canolfan Gerdd William Mathias, trefnwyr Gŵyl Delynau Cymru?

Fe hoffwn glywed am
Iaith

Mae'n bosib i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy glicio y ddolen dad-danysgrifo ar waelod unrhyw ebost rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, neu drwy gysylltu â ni ar post@cgwm.org.uk. Rydym ni'n trin eich gwybodaeth â pharch. Am ragor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd gwelwch ein Polisi Preifatrwydd. Drwy glicio isod, rydych chi’n cytuno i ni brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r termau hyn.

Rydym ni'n defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp er mwyn ei brosesu. Gallwch ddysgu mwy am ymarferion preifatrwydd MailChimp yma.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus!