Datgelodd un o delynorion pennaf Cymru y bydd perfformiad cyntaf darn newydd o gerddoriaeth i gofio am foddi dadleuol pentref Capel Celyn yn achlysur hynod emosiynol iddi.

Arweiniodd taid Sioned Williams, Huw T Edwards, yr ymgyrch yn erbyn boddi Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn ger Y Bala yn 1965 i greu cronfa ddŵr i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl a Chilgwri.

Er i’r protestiadau ffyrnig fod yn aflwyddiannus yn y pen draw, roedd boddi’r pentref yn foment arwyddocaol yng ngwleidyddiaeth Cymru a dywedir i’r digwyddiad ail-danio cenedlaetholdeb Cymreig.

Ar ôl bron i 30 mlynedd bydd  y delynores, sy’n dod yn wreiddiol o’r Sychdyn yn Sir y Fflint, yn rhoi’r gorau i’w gwaith fel Prif Delynor Cerddorfa Symffoni’r BBC, ac mi gomisiynwyd y gwaith, Boddi Capel Celyn, ganddi ar ei phen-blwydd yn 60 oed.

Hi fydd yn chwarae’r darn, a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Michael Stimpson, yng Ngŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Eglwys y Santes Fair yng Nghaernarfon ar ddydd Llun y Pasg, Ebrill 2.

Bydd uchafbwyntiau eraill yr ŵyl, sydd yn ei phedwaredd blwyddyn, yn cynnwys dathliad o fywyd a gwaith y telynor byd-enwog, Dr Osian Ellis, i nodi ei ben-blwydd yn 90 oed.

Yn ogystal â bod yn Athro’r Delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol, bu Dr Ellis am flynyddoedd lawer yn Brif Delynor Cerddorfa Symffoni Llundain, ac roedd gan Benjamin Britten gymaint o feddwl ohono nes iddo ysgrifennu ei Harp Suite yn arbennig ar ei gyfer.

Bydd dros 100 o delynorion o wledydd mor bell i ffwrdd â Siapan, America, Rwsia a Gwlad Thai yn dod i’r ŵyl, sy’n defnyddio Galeri yng Nghaernarfon fel ei phrif leoliad, o Sul y Pasg, Ebrill 1 i ddydd Sadwrn, Ebrill 7.

Yn ôl yn y 1960au, roedd Huw T Edwards yn arweinydd undeb llafur dylanwadol gyda’r Undeb Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol yng ngogledd Cymru ac fe’i etholwyd yn gadeirydd ymgyrch Achub Tryweryn, rhywbeth y mae Sioned Williams yn hynod falch ohono.

Meddai: “Rwy’n cofio eistedd ar lannau Llyn Celyn fel merch ifanc gyda Thaid ac roeddwn i’n synhwyro rhyw deimlad o dristwch mawr sy’n parhau gyda mi hyd heddiw. Rwyf wedi ymweld â’r fan sawl gwaith ers hynny a myfyrio ar y digwyddiadau ofnadwy na ddylent fod wedi digwydd.

“Mae’r gwaith gan Michael Stimpson mor ingol a chyngerdd Caernarfon fydd y perfformiad cyntaf yng Nghymru o’r gwaith a bydd yn cael ei berfformio ym mhresenoldeb y cyfansoddwr gan fod Michael Stimpson ei hun yn bwriadu bod yno.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cael cyfle i fyfyrio unwaith eto wrth iddynt wrando ar waith hudolus a hyfryd.”

Huw T Edwards

Ychwanegodd: “Chwaraeodd fy Nhaid, Huw T Edwards, ran bwysig wrth geisio atal y boddi ac mi geisiodd tri dyn, Owain Williams, Emyr Llewelyn Jones a John Albert Jones, a fu farw ym mis Tachwedd y llynedd, ffrwydro transfformer trydan ar safle’r argae.

“Mae’n debyg fod Taid wedi talu arian mechnïaeth i gael un o’r tri allan o’r carchar.”

“Mae cyfansoddiad Michael Stimpson yn waith mor rhyfeddol a hyfryd, sy’n gwneud cyfiawnder â’r hyn yr oedd pobl yn ei deimlo, y dinistr llwyr wrth i’r dŵr ruthro i mewn i’r cwm a boddi’r capel, swyddfa’r post, tŷ cwrdd y Crynwyr a’r bythynnod.”

Ac, ar ddechrau’r perfformiad, bydd Sioned yn darllen cerdd, ‘Tryweryn’, a ysgrifennwyd gan ei thad Huw T Edwards a’i chyhoeddi yn ei gyfrol o gerddi Cymraeg, sef ‘Tros F’ysgwydd’ mewn llyfr o’i gerddi Cymraeg,.”

Yn gyn-ddisgybl i gyfarwyddwr yr ŵyl, Elinor Bennett, aeth Sioned ymlaen i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol lle cafodd ei dysgu gan Dr Osian Ellis.

Sioned oedd yr ail delynor yn unig i ennill y Diploma Datganiad, yr arholiad perfformiad uchaf ei glod yn yr Academi Frenhinol, ac Elinor Bennett oedd y cyntaf.

Bu’n teithio ar draws y byd fel unawdydd telyn am bron i 20 mlynedd ac mae wedi cyflwyno ei rhaglenni radio ei hun ar Radio 4 a’r World Service, a hi oedd y cerddor cyntaf o Brydain i ennill gwobr nodedig y Concert Artist Guild yn Efrog Newydd.

Fodd bynnag, ar ôl arwyddo contract i fod yn Brif Delynor gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC yn 1990, cafodd Sioned y diagnosis ysgytwol ei bod yn dioddef o anhwylder genetig prin – clefyd McArdle, sef anhwylder storio glycogen.

Meddai: “Fedra ddim mynegi’r holl emosiynau a brofais bryd hynny. Fodd bynnag, mi benderfynodd fy nghalon reoli fy mhen a dyma ni 28 mlynedd yn ddiweddarach ac rwy’n dal i fod yn delynores.

“Ond ar ôl 28 o flynyddoedd cyffrous yn gweithio gyda’r cyfansoddwyr a’r arweinyddion mwyaf rhyfeddol yn y byd, byddaf yn gadael fy swydd ac yn cynnal cyngerdd olaf gyda’r gerddorfa o dan faton Syr Andrew Davis yn y Barbican ar Ebrill 13. Byddaf wedyn yn canolbwyntio ar ddilyn anturiaethau cerddorol eraill. Fy mwriad yw parhau i chwarae’r delyn am byth. Fedra i ddim rhoi’r gorau iddi!”

Yn ôl Elinor Bennett, bydd y cyngerdd gyda Sioned am 7.30yh ar ddydd Llun y Pasg yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon yn achlysur bythgofiadwy a theimladwy iawn.

Dywedodd: “Mae’r ffaith bod taid Sioned wedi arwain yr ymgyrch yn erbyn dinistrio a boddi Capel Celyn yn ychwanegu cyffyrddiad personol go iawn i’r hyn sy’n parhau i fod yn fater emosiynol i lawer o Gymry.

“Rwy’n rhannu atgofion Sioned gan fod fy nhad, Emrys Bennett Owen, hefyd yn rhan o’r ymgyrch i achub y pentref ac, fel cadeirydd Cyngor Gwledig Penllyn, roedd yn rhan o’r ddirprwyaeth a aeth i lobïo AS Lerpwl, Bessie Braddock .

“Rwy’n falch iawn y bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth wych ar gyfer lleisiau a thelyn deires gan gyfansoddwyr enwog – John Rutter, Benjamin Britten, Gustav Holst a’i ferch, Imogen Holst a fu’n gweithio gydag Osian Ellis yng Ngŵyl Benjamin Britten yn Aldeburgh.

“Bydd yn bleser arbennig croesawu cantorion nodedig Côr Palestrina Cadeirlan y Santes Fair, Dulyn gyda’u Cyfarwyddwr, Dr Blanaid Murphy, i berfformio pedwar gwaith amheuthun ar gyfer côr a thelyn gyda Sioned Williams ac Anne Denholm, Telynores Swyddogol Tywysog Cymru.

“Bydd yn noson anhygoel!”

Let’s stay in touch!

Let’s stay in touch!

We’d love to keep you up-to-date about the latest news and upcoming events at Canolfan Gerdd William Mathias (organisers of the Wales Harp Festival).

I'd like to hear about
Language

You can change your mind at any time by clicking the unsubscribe link in the footer of any email you receive from us, or by contacting us at post@cgwm.org.uk. We will treat your information with respect. For more information about our privacy practices please see our Privacy Policy. By clicking below, you agree that we may process your information in accordance with these terms.

We use MailChimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to MailChimp for processing. Learn more about MailChimp's privacy practices here.

You have Successfully Subscribed!

Aros mewn cyswllt!

Aros mewn cyswllt!

Hoffech chi dderbyn y wybodaeth diweddaraf am newyddion a digwyddiadau Canolfan Gerdd William Mathias, trefnwyr Gŵyl Delynau Cymru?

Fe hoffwn glywed am
Iaith

Mae'n bosib i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy glicio y ddolen dad-danysgrifo ar waelod unrhyw ebost rydych chi'n ei dderbyn gennym ni, neu drwy gysylltu â ni ar post@cgwm.org.uk. Rydym ni'n trin eich gwybodaeth â pharch. Am ragor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd gwelwch ein Polisi Preifatrwydd. Drwy glicio isod, rydych chi’n cytuno i ni brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r termau hyn.

Rydym ni'n defnyddio MailChimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i MailChimp er mwyn ei brosesu. Gallwch ddysgu mwy am ymarferion preifatrwydd MailChimp yma.

Rydych chi wedi tanysgrifio'n llwyddiannus!