Nos Lun y Pasg, Ebrill 2, 2018 | 7:30yh
Eglwys y Santes Fair, Stryd yr Eglwys, Caernarfon
Côr Palestrina, Dulyn Cyfarwyddwr : Blanaid Murphy
Telynau: Sioned Williams, Anne Denholm
Rutter: Dancing Day
Imogen Holst: Welcome Joy, Welcome Sorrow
Gustav Holst: Rig Veda
Egwyl
Michael Stimpson: “The Drowning of Capel Celyn” (Perfformiad cyntaf yng Nghymru)
Benjamin Britten: A Ceremony of Carols
Tocynnau ar gael rŵan o Swyddfa Docynnau Galeri.
Yn anaml iawn y ceir y fraint o wrando ar berfformiadau o’r gweithiau gwych hyn gan bump cyfansoddwr o Loegr i gôr a thelyn. Bu Imogen Holst, merch y cyfansoddwr Gustav Holst, yn gweithio gyda Benjamin Britten yn Aldeburgh, gan ddod yn gyd-gyfarwyddwr artistig Gŵyl Aldeburgh (gan gyd-weithio hefyd gydag Osian Ellis). Roedd John Rutter yn aelod o’r côr plant a ganodd yn y recordiad cyntaf o waith mawr Britten, The War Requiem yn Eglwys Gaderiol Coventry gyda’r cyfansoddwr yn arwain ac Osian Ellis yn aelod o’r grŵp siambr, y Melos Ensemble. Treuliodd Michael Stimpson ei febyd yn Llundain yn agos at Ysgol St Paul’s, lle ‘roedd Holst yn athro. Ysgrifennodd y pedwar cyfansoddwr weithiau gwych i gorau, er mai i’r delyn yr cyfansoddodd Michael Stimpson ei waith i gofio trychineb Tryweryn. (Addasiad EB).
Bydd y cyngerdd yn agor ar nodyn llawn a llawen yn Dancing Day gan John Rutter ac yn symud i seiniau tynerach yng ngwaith Imogen Holst Welcome Joy, Welcome Sorrow, cyn diweddu’r hanner cyntaf gyda cherddoriaeth wych Gustav Holst o’r Rig Veda. Bydd cerddoriaeth tawel, meddylgar Michael Stimpson yn sicr o daro tant emosiynol, cyn terfynu’r cyngerdd gyda cherddoriaeth wych Britten – Ceremony of Carols. Bydd awyrgylch ac acwstig Eglwys Santes Fair Caernarfon (sy’n dyddio o’r 13ganrif ac yn rhan o furiau’r hen dref) yn leoliad perffaith i’r gerddoriaeth.
Bydd hwn yn gyngerdd corawl teimladwy a disglair iawn.
Hyd y cyngerdd 90 munud yn cynnwys egwyl