Mae straeon ysbrydoledig ein cystadleuwyr yn rhoi cipolwg anhygoel i’w hymroddiad i fod y cerddorion gorau posib. Dyma hanes dau gerddor ifanc a’u taith gerddorol.
Cassandra Tomella (Yr Eidal) – Cystadleuaeth Ieuenctid
Dyma’r trydydd tro i Cassandra (llun uchod) gystadlu yng Nghymru.
Cafodd ei hysbrydoli gan Gymru fel gwlad llawn cerddoriaeth a hud a lledrith. Y tro cyntaf iddi ymweld â Chymru i gystadlu fe’i croesawyd hi mor gynnes dywedodd “Roeddwn i’n teimlo’n hollol gartrefol”
Mae hi wedi mynychu Academi Catrin Finch ddwywaith ac mae bellach yn delynores Gymreig anrhydeddus!
Dechreuodd Cassandra gael gwersi telyn yn 8 oed ac ers 2013 mae hi wedi astudio yn y Conservatoire yn Milan, lle benderfynodd ddysgu’r harpsichord. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn repertoire Baróc, ac mae’r offeryn yn caniatáu iddi ddeall y cyfnod a’r gerddoriaeth a gyfansoddwyd ar y pryd yn well. Mae hi’n teimlo y bydd hyn yn ei helpu i ddehongli darnau baróc yn well wrth ganu’r delyn.
Dywed Cassandra mai ei phrofiad telyn mwyaf cyffrous oedd chwarae 5ed Symffoni Shostakovic â Cherddorfa Coservatoire Milan a “Puer Natus” gyda cherddorfa chwyth y Nadolig diwethaf.
Yn 2016 perfformiodd gyfres o ddatganiadau elusennol yn Amatrice (lle roedd daeargryn yr un flwyddyn) Dywedodd ei bod hi’n brofiad arbennig iawn perfformio mewn cartref hen bobl yno, lle teimlodd pa mor bwerus gall cerddoriaeth fod.
Veronika Lemishenko (Ukraine) – Cystadleuaeth y Pencerdd
Dechreuodd Veronika ganu’r delyn yn 7 oed. Ar ôl graddio o Ysgol Gerdd Uchaf Kharkov lle bu’n astudio gyda Larisa Klevtzova, aeth ymlaen i’r Academi Gerdd Gnessins ym Moscow gan astudio gyda Milda Agazarian.
Ar hyn o bryd, Veronika yw Prif Delynores UAPhO
Mae Veronika yn dychwelyd i gystadlu yng nghystadleuaeth y Pencerdd ble enillodd y drydydd wobr bedair blynedd yn ôl. Roedd hyn yn adeg cythryblus yn ei gwlad ac achosodd lawer o bryderon iddi ar y pryd.
Dymunwn bob llwyddiant i Veronika wrth iddi ddychwelyd i gystadlu yn yr Ŵyl unwaith eto.