Mae Gŵyl Delynau mwyaf blaenllaw y DU ac Ewrop yn barod i groesawu telynorion o bob cwr o’r byd ym mis Ebrill 2018.
Bydd telynorion yn dod i Gaernarfon i ymuno yn y dathlu ac i wneud ffrindiau drwy gerddoriaeth.
Mae’r Ŵyl yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cystadleuthau o fri ac uchel eu parch. Gyda 5 cystadleuaeth wahanol, a gwobrau’n amrywio o £400 i £5,000 , mae’n blatfform gwych i delynorion cael eu gweld ar lwyfan rhyngwladol.
Bydd pob Cylch Terfynnol yn cael eu recordio a’u trosglwyddo’n fyw ar-lein fel bod cynilleidfaoedd dros y byd yn gweld a chlywed y perfformiadau fel maent yn digwydd.
Y 5 cystadleuaeth yw:
- Pencerdd – agored i delynorion 30 oed a iau
- Ieuenctid – agored i delynorion 19 oed ac iau
- Cystadleuaeth Iau – agored i delynorion 13 oed ac iau
- Cerddoriaeth Byd – unrhyw oedran
- Deuawd Telyn – unrhyw oedran
Am fanylion llawn ewch i https://www.walesharpfestival.co.uk/cy/cystadlaethau/
Dyddiad cau Ionawr 19eg, 2018 – nifer cyfyngiedig o lefydd felly gwnewch gais cyn gynted a phosib.