Gŵyl Delynau Cymru 2021
Trosglwyddo’r Awen
30 + 31 Mawrth 2021
Cyfarwyddwr Artistig: Elinor Bennett

Llywydd yr Ŵyl: Osian Ellis
(1928 – 2021)
Neges gan Elinor Bennett
Cyfarwyddwraig artistig

Trosglwyddo’r awen o ganu’r delyn i genhedlaeth newydd yw prif nôd yr Ŵyl rithiol hon.
Bydd yn gyfle i gofio tri o gewri byd y delyn a fu farw’n ddiweddar, ar gân ac ar lafar, gyda disgyblion a chyfeillion Osian Ellis yn dysgu ac yn perfformio.
Ynghanol trybini Covid, mae’r delyn a’i cherddoriaeth yn codi’r galon ac yn cyfoethogi bywydau.


Digwyddiadau
Bywgraffiadau

Ann Jones

Ganwyd Ann Jones yn Llanymawddwy ac fe’i hysbrydolwyd yn ifanc iawn gan y Dafydd Roberts, (y Telynor Dall) a Nansi Richards, - a chanddi hi y cafodd ei gwers gyntaf. Aeth i ysgol Gymraeg yn Llundain i ddysgu’r delyn gydag Anne Ross a Gwendolen Mason. Yn ddiweddarach, astudiodd yn yr Academi Frenhinol yn Llundain dan Osian Ellis. Bu’n gweithio gyda Cherddorfa Gwlad yr Iâ cyn dychwelyd i Lundain fel cerddor llaw-rydd. Yn 1968 derbyniodd wahoddiad i chwarae gyda Cherddorfa Radio RTE yn Nulyn a rhoddodd Ann ei thelyn ar y cwch yng Nghaergybi ac ymunodd a’r gerddorfa. Yna mae wedi bod ers hynny. Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn mwynhau dysgu’r Gwyddelod sut i chwarae cerddoriaeth Cymraeg!

Elen Hydref

Mae’r delynores Elen Hydref yn mwynhau gyrfa o weithio gyda rhai o gerddorfeydd gorau Prydain a Norwy, gan gynnwys Cerddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Royal Ballet Sinfonia, Cerddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol, City of Birmingham Symphony Orchestra, Bergen Philharmonic Orchestra a Cherddorfa Cwmni Opera a Balet Cenedlaethol Norwy.
Yn ogystal a’i gyrfa gerddorfaol mae Elen yn mwynhau dysgu ac wedi bod yn diwtor sawl gwaith ar gyrsiau Cerddorfa Blant Genedlaethol Prydain a Gŵyl Delynau Cymru.
Astudiodd Elen gydag Elinor Bennett a Dylan Rowlands yng Ngogledd Cymru cyn symud i Lundain i astudio gyda Skaila Kanga a Catherine White yn Ysgol Gerdd Purcell a’r Academi Gerdd Frenhinol.
Tra yn paratoi at gylch terfynol llinynnol cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC yn 2004, trefnodd Elinor Bennett i Elen dderbyn cyfres o wersi gan y diweddar Osian Ellis.

Elinor Bennett

Astudiodd ELINOR BENNETT gydag Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain ar ôl graddio yn y Gyfraith, a bu’n chwarae gyda phrif gerddorfeydd Prydain yn gynnar yn ei gyrfa. Recordiodd 15 albwm yn amrywio o gerddoriaeth telyn yr 20fed ganrif, i gerddoriaeth traddodiadol Cymru.
Ysgrifennodd sawl cyfansoddwr gerddoriaeth i Elinor, a cyfarwyddodd astudiaethau telyn ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n Athrawes Ymweliadol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg y Guildhall, Llundain. Cafodd Gymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Bangor, yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Cerdd a Drama Cymru, a Doethuriaeth gan Brifysgol Cymru. Elinor yw Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a Gŵyl Ryngwladol y Delyn yng Ngwlad Thai.
Y Newyddion Diweddaraf
Lansio ein Gŵyl Delynau “Rhithiol” cyntaf
Neges gan Elinor Bennett, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl: Cofio - talu teyrnged - a throsglwyddo'r awen fydd prif themâu Gŵyl Delynau Cymru eleni. Tristwch mawr oedd clywed ym mis Ionawr am farwolaeth Osian Ellis, Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl hon, un o'r...
Osian Ellis (1928-2021)
Trist yw cofnodi marwolaeth y telynor a’r ysgolhaig, Osian Gwynn Ellis yn 92 oed. Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr brwd i waith a chenhadaeth Canolfan Gerdd William Mathias a Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru. Brodor o Ffynnongroyw, Sir y Fflint ydoedd ond fe’i magwyd yn...
Cadw Mewn Cysylltiad

Caiff Gŵyl Delynau Cymru ei threfnu gan Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu hyfforddiant a phrofiadau cerddorol o safon uchel i bobl o bob oed yn ei chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun a thrwy raglen eang o brosiectau addysgol a chymunedol.